tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Protest tu allan i Neuadd Cyngor Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBu dros 100 o bobl yn protestio tu allan i Neuadd y Sir, Caerfyrddin rhwng 8.30am a 10am y bore yma (23ain Gorffennaf ) cyn cyfarfod pwysig o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin. Trefnwyd y brotest gan rieni a llywodraethwyr, a bu aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yno yn cefnogi.

Am 10am fe fydd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod argymhelliad i fabwysiadu fformiwla newydd i gael gwared â bob ysgol bentrefol Gymraeg heblaw am “nifer fechan o leoliadau addysg” sy’n anghysbell iawn. Bydd y fformiwla newydd yn dileu’r elfennau atodol ar gyfer ysgolion bach a hybu ffederasiynau ac yn seilio’r cyfan ar nifer y disgyblion. O ganlyniad, bydd pob ysgol bentre’ bach yn colli cyllid sylweddol.

Yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith, ysgolion Cymraeg eu cyfrwng fydd yn colli fwyaf. Bydd Ysgolion Categori A (Cymraeg eu cyfrwng) yn colli cyfanswm o £460,040. Bydd ysgolion Categori AB ( ffrydiau Cymraeg a Saesneg ar wahân ) yn ennill cyfanswm o £269,365. Bydd ysgolion Categori B (Saesneg eu cyfrwng) yn ennill cyfanswm o £190,433. Bydd 50 o Ysgolion Pentrefol Categori A (Cymraeg) ar eu colled, a dim ond 13 ar eu hennill.

Meddai Cadeirydd y Gymdeithas yng Nghaerfyrddin, Sioned Elin (sydd â phlant ei hunan mewn ysgol bentre’ Gymraeg ):

"Mae’r Cyngor Sir yn mynd yn fwyfwy rhwystredig oherwydd yr holl wrthwynebiad i’w cynlluniau i gau ysgolion a’r oedi canlynol. Felly, maen nhw am fynd ati nawr i newynu’r ysgolion o gyllid er mwyn rhoi eu llywodraethwyr mewn sefyllfa amhosibl. Dim ond un dewis sydd i fod mewn ymgynghori yn y dyfodol, sef cau ysgolion. Yn y broses, byddan nhw’n rhoi ergyd mawr i addysg Gymraeg ac i’n cymunedau Cymraeg yn y sir."

Syrpreis, Syrpreis

Unwaith eto nid yw'r broses ymgynghori hir ynghylch dyfodol ysgol bentrefol wedi cael unrhyw effaith o gwbl ar Swyddogion Addysg Sir Gâr sydd wedi argymell fod y Bwrdd Gweithredol heddiw y 23ain o Orffennaf yn caniatáu cyhoeddi rhybudd statudol i gau ysgol Llansadwrn. Fe fydd hyn yn dilyn eitem gynharach ar yr agenda a fydd yn gofyn i'r Bwrdd fabwysiadu fformiwla gyllido newydd a fydd yn newynu ysgolion pentrefol o arian.

Mewn llythyr i bob aelod o'r Bwrdd, dywedodd llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis:

"Unwaith eto gofynnir i chwi roi'r caniatâd arferol i gau ysgol bentrefol cyfrwng Cymraeg heb unrhyw astudiaeth o'r effaith ar yr iaith Gymraeg nac astudiaeth o'r effaith ar y gymuned."

"Dywed eich swyddogion nad yw'r broses ymgynghori wedi cyflwyno unrhyw ddewisiadau eraill heblaw am gau ysgol. Dyw hi ddim yn eich taro chi fod hyn yn gysylltiedig i'r fformiwla gyllido arfaethedig newydd sydd wedi ei gynllunio i wneud ffedereiddio'n anhyfyw? Dych chi ddim yn gweld fod y diffyg strategaeth unedig rhwng yr adrannau Addysg ac Adfywio Cymunedol yn gwneud y defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion yn amhosibl?"

"Y tro yma, plîs gwrthodwch argymhelliad y swyddogion a chyfarwyddwch hwy i adolygu effaith cau ysgolion a'r dewisiadau eraill yn llawn."

"Y sgandal mwyaf yw bod y swyddogion yn amlwg yn gweithio o dempled ar gyfer cau llawer o ysgolion mewn modd dirmygus iawn. Mae'r paragraff a ddefnyddir i ddadlau yn erbyn creu ffederasiwn yn ardal Llansadwrn yn union yr un gair am air a'r paragraff a ddefnyddiwyd ym mis Ionawr eleni i ddadlau yn erbyn ffederasiwn yn ardal Mynyddcerrig. Mae hyn yn warthus."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig