tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cefnogi Gwyl Macs

Gwyl MacsMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi ei bod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf newydd Cymru sy'n digwydd yng Nghaerfyrddin y penwythnos hwn. Cynhelir Gwyl Macs ar faes y Sioe Nant y Ci ger Caerfyrddin ar Ddydd Sadwrn 1/9 a Dydd Sul 2/9.

Bydd y miloedd a ddisgwylir yno am ddiwrnod neu i wersylla am y penwythnos yn cael mynediad at 5 llwyfan a llawer o weithgareddau eraill fel arddangosfeydd sglefyrddio. Ar y brif lwyfan bydd bandiau Cymreig fel Geraint Jarman, Genod Droog a Swci Boscawen yn ymuno â Plan B ar y Dydd Sadwrn a Meic Stevens, Radio Luxembourg a Zabrinski (yn eu gig olaf oll) yn ymuno gyda'r Magic Numbers ar y Dydd Sul.

Bydd y Gymdeithas yn trefnu'r llwyfan acwstig gan gyflwyno dau ddwsin o fandiau Cymraeg mewn adloniant di-dor dros y deuddydd. Bydd y rhestr ar gyfer Dydd Sadwrn yn cynnwys Gai Toms, Fflur Dafydd, Cowbois Rhos Botwnnog, Gwibdaith Hen Fran, Mattoidz, Gwyneth Glyn a Brigyn a rhestr Dydd Sul yn cynnwys Genod Droog, Supergene, Derwyddon Doctor Gonzo, Mr Huw a Pwsi Meri Mew.

Esboniodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o fod yn bartner yn un o Wyliau mwyaf cyffrous Cymru. Bydd y digwyddiad yn rhoi Caerfyrddin ar y gylchdaith Ewropeaidd o Wyliau Mawr gan hyrwyddo diwylliant Cymraeg cyfoes ac yn denu artistiaid cydwladol i'r rhan hon o Gymru."

Ewch at www.gwylmacsfest.com am yr amserlen llawn a'r holl wybodaeth ychwanegol.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig