tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Arwyddion Dwyieithog yn Abertawe. Ail gydio yn y brwsh paent?

Cyngor Saesneg AbertaweMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gresynu at y newyddion fod Cyngor Sir Abertawe am godi arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg yn yr ardal gan ddefnyddio iechyd a diogelwch fel esgus dros wneud hynny. Heddiw anfonodd y Gymdeithas y llythyr isod at Brif Weithredwr Cyngor Abertawe yn mynegi ei phryder.


Sylwaf oddi wrth adroddiadau yn y wasg a'r cyfryngau fod Cyngor Dinas a Sir Abertawe am godi arwyddion uniaith Saesneg gan gynnig yr esgus fod arwyddion dwyieithog yn beryglus. Ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg hoffem wybod:

1. Ar sail pa ymchwil y daethpwyd i'r casgliad fod arwyddon dwyieithog yn beryglus? Wedi’r cwbl fe wnaeth Pwyllgor Roderick Bowen ar Arwyddion Dwyieithog (1971) astudiaeth fanwl i'r pwnc hwn a dod i'r casgliad nad oedd arwyddion dwyieithog yn beryglus.
2. Mae arwyddion dwyieithog neu amlieithog i'w cael led led Ewrop mewn gwledydd lle siaredir mwy nag un iaith swyddogol. Cyfeiriwn at rai o'r gwledydd hyn - Sweden, Gwlad Belg, Sbaen, Y Swistir. A fedrwch egluro i mi pam nad yw arwyddion dwyieithog yn cael eu hystyried yn beryglus yn y gwledydd hyn, ond yn beryglus yn Abertawe?
3. Yn wir, mae siroedd eraill Cymru ei hun ynghyd a'r Cynulliad Cenedlaethol yn cydnabod nad oes berygl o gwbl mewn arwyddion dwyieithog? A fedrwch egluro i mi sut y daeth Cyngor Dinas a Sir Abertawe i gasgliad gwahanol?
4. Onid yw Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn mynd yn groes i'w Gynllun Iaith drwy beidio gweithredu polisi dwyieithog ynn y maes hwn?
A fyddem yn iawn yn tybio mai agwedd sarhaus at y Gymraeg yn hytrach nac unrhyw ofal dros ddiogelwch y cyhoedd sydd wrth benderfyniad Cyngor Dinas a Thref Abertawe i beidio a chodi arwyddion dwyieithog?


Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ymhellach;

"Os bydd y Cyngor Sir yn mynd ymlaen gyda'r penderfyniad gwallgof hwn fe fydd yn rhaid i'r Gymdeithas ail ystyried cydio yn y brwsh paent a pheintio'r byd yn wyrdd unwaith eto. Mae'r holl helynt hefyd yn profi fod gwir angen Deddf Iaith Newydd fel nad yw nonsens fel hyn yn codi yn y dyfodol. Yn y cyfamser bydd y Gymdeithas yn ysgrifennu at y Bwrdd Iaith a Llywodraeth y Cynulliad i gwyno am hyn."

'Dim arwyddion Cymraeg' - Dydd Llun, 24 Medi 2007, BBC Cymru'r Byd

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig