|
|
|
Ysgolion pentrefol Gwynedd
Ddydd Mawrth aeth Ffred Ffransis (grwp ymgyrchu addysg) ac Angharad Tomos a Dewi Tomos o Ranbarth Gwynedd i gyfarfod a swyddogion o Gyngor Gwynedd er mwyn trafod y cynllun dadleuol a fydd yn golygu cau dros ugain o ysgolion pentrefol Gwynedd, a fydd yn cael effaith andwyol ar gymunedau'r ysgolion hynny. Bu'n gyfarfod digon buddiol yn y bon, a chredaf inni drosglwyddo ein neges. Yr hyn yr oedden ni'n dadlau oedd bod mynd a'r cynllun yma yn syth at gyfnod o ymgynghori statudol (hynny yw, cyfnod o ymgynghori ar sut i weithredu'r cynllun, ac felly cau ysgolion) yn gamgymeriad difrifol. Wrth gwrs, bu dwy flynedd o ymgynghori gan gyngor Gwynedd cyn hyn, ac yn hynny o beth mae cyngor Gwynedd wedi dangos mwy o barch at eu cymunedau nag aml i gyngor arall yng Nghymru. Ond, bu'r ymgynghoriad hynny yn ymgynghoriad heb gynllun. Erbyn hyn, mae cynllun ar y bwrdd, ac mae ond yn deg i bobl Gwynedd gael yr hawl i leisio eu barn ar y cynllun penodol yma cyn y broses ymgynghori statudol. Yr hyn yr oedden ni'n pwyso amdano oedd cyfnod o 6 mis o ymgynghori anstatudol, anffurfiol, lle byddai hawl gan bobl Gwynedd i leisio barn ar y cynllun yn ei grynswth. Trwy hyn, byddai modd i bobl Gwynedd leisio barn ar ba fath o gynllun sydd yn gweddu i'w cymunedau hwy.
Er engrhaifft, un o'r prif meini tramgwydd oedd federaleiddio - nid yw Cymdeithas yr Iaith yn gwrthwynebu ffederaleiddio os yw'r dewis rhwng ffederaleiddio a chau ysgol yn gyfan gwbl. Yr hyn sydd ddim yn dderbyniol yw bod un model o ffederaleiddio dogmataidd yn cael ei wthio ar gymunedau lle nad yw'n briodol, a lle nad y cynllun ffederaleiddio arbennig yna yw'r ffordd orau o warchod ysgolion bychain a'u cymunedau. Mae pob math o ddulliau o ffederaleiddio, yn amrywio o ran maint, trefniadaeth a rol penaethiaid - dylid ymestyn cynlluniau'r Cyngor, a gofyn i'r cymunedau lleol am eu barn hwythau am ba fath o ffederaleiddio sy orau i'w cymunedau hwy.
Bydd protest y tu allan i Gyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ar y 13eg o Ragfyr pryd y bydd y cynllun yma yn cael ei gyflwyno i'r cynghorwyr, a'r gobaith yw y bydd presenoldeb cannoedd o rieni a phlant Gwynedd yn dangos i'r cyngor bod yn rhaid iddyn nhw roi'r cyfle i'r bobl i leisio eu barn ar y cynllun hwn. Dewch yn llu ar y 13eg felly, am 1 0'r gloch y pnawn.
Mwy yn yr un categori(au): Blog Hywel
.
|
|