tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Twyll Datblygwyr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cwmni Datblygu Tai Eatonfield - am ddefnyddio hen driciau eu masnach ym Mhont-Tyweli, Llandysul. Bwriada'r cwmni adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli gyda chaniatad ar gyfer codi 31 ohonynt wedi ei roi 16 mlynedd yn ol. Sicrhaodd y cwmni fod y caniatad yn dal yn ddilys drwy dorri twll yn y clawdd a dadlau fod hyn yn dystiolaeth fod y gwaith adeiladu eisioes wedi cychwyn.

Ymhellach, maenr wedi comisiyn cwmni annibynol i wneud astudiaeth o'r effaith ar yr iaith o godi 19 ty yn unig, gan fod y caniatad eisioes wedi ei roi ar y 31 ty arall.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith aydd yn byw ym
Mhont-Tyweli:

"Mae hwn yn nonsens pir ac yn hollol annerbyniol; dylai'r astudiaeth iaith naill ai wedi astudio effaith codi 50 o dai newydd neu wedi cymharu beth fyddai effaith 31 ty gyda'r effaith bydd 50 ty yn ei gael. Roedd yr asesiad a wnaethpwyd yn wastraff amser ac aeian. Mae'n amherthnasol cymharu'r sefyllfa bresennol gyda 19 ty ychwanegol gan nad yw'r 31 arall wedi eu codi eto."

"Mae gwrthwynebiad chwyrn i'r caniatad cynllunio hwn ym mhentref Pont-Tyweli. Mae'n amlwg nad oes angen am 50 ty arall dros gyfnod o 3 mlynedd mewn pentref o 120 o dai. Gofidia'r pentrefwyr am yr effaith ar y gymuned ac ar yr iaith. Am y rheswm hwn fe gomisiynodd Cyngor Cymuned Llageler ei Astudiaeth eu hunain o'r effaith ar yr iaith gan yr Arbenigydd Iaith, Dylan Bryn Roberts - ac roedd eu gasgliadau ef yn wahanol iawn i'r asesiad a baratowyd gan Eatonfield gan ei fod yn asesu effaith 50 o dai yn hytrach nac 19."

"Cynhaliwyd cyfarfod llwyddiannus neithiwr (mercher) i drafod y camau nesaf yn yr ymgyrch i wrthwynebu'r datblygiad. Heno bydd gwylnos yn cael ei gynnal am 6.30pm ar y cae, gyda phentrefwyr ac aelodau Cymdeithas yr Iaitth yn bresennol i dynnu sylw at yr anghyfiawnder ac i wrthwynebu'r datblygiad."

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifennu at Eatonfield i fynnu eu bod yn trin y gymuned yn deg drwy gomisiynu astudiaeth iaith newydd o godi 50 ty newydd (potensial 150 o bobl ychwanegol). Mynodd y GYmdeithas hefyd y dylid trin y cais cynllunio fel cais newydd er mwyn galluogi'r swyddogion cynllunio i farnu'r angen heddiw am 50 o dai ychwanegol yn y pentref. Os na wnaiff Eatonfield gytuno bydd yn rhaid i'r Gymdeithas drefnu ymgyrch o weithredu uniongyrchol yn erbyn y cwmni. Mae'r GYmdeithas a'r pentrefwyr hefyd yn galw ar adran gynllunio'r Cyngor Sir i wrthod y cais cynllunio hwn.

Cefndir:

* Cyflwynwyd y cynlluniau dadleuol i godi 50 o dai dros 3 mlynedd ym mhentref bach Pont-Tyweli yn wreiddiol yn Rhagfyr 2006
* Tynwyd y cynlluniau nol a'u hail gyflwyno yn Ebrill 07
* Gwrthododd Adran Draffig y Cyngor Sir i argymell y cais ond wedi trafodaethau gyda Eatonfield a'u haddewid i greu cylchdro newydd ar y gyffordd gul ger tafarn yr Half Moon ym Mhont-Tyweli, rhoddwyd bendith ar y cynllun.
* Ymddengys y caiff y cynlluniau eu trafod yn y pwyllgor Cynllunio ar Ragfyr 20ed

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig