tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

PROTEST: Morrisons, Aberystwyth

Protest Morrisons Aberystwyth
2.30pm, Sadwrn Rhagfyr 1.

01-12-07-morrisons-aberystwyth.jpg

DEDDF IAITH NEWYDD - DYMA'R CYFLE!

Mae Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn erbyn Morrisons fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd. Nid yw'r sefyllfa bresennol ddigon da gan nad oes statws swyddogol gan yr iaith na chwaith hawl gan ei siaradwyr i gael gwasanaethau yn y sector breifat yn eu hiaith eu hunain.

Rydym yn dibynnu yn llwyr ar ewyllys da cwmnïau unigol ac er bod hyn wedi darparu rhywfaint o gydnabyddiaeth symbolaidd i'r Gymraeg mae'r sefyllfa'n parhau yn hollol annigonol. Mewn byd delfrydol mi fuasai cwmnïau yn darparu gwasanaeth Cymraeg o'u hewyllys eu hunain ond mae'r pymtheg mlynedd diwethaf wedi dangos y gwirionedd anffodus na wnaiff cwmnïau ddarparu'r gwasanaeth os nad oes raid iddynt. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Iaith fuasai'n:

· rhoi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg
· rhoi hawliau sylfaenol i siaradwyr Cymraeg gael gwasanaethau yn yr iaith ym mhob sector
· rhoi hawliau sylfaenol i weithwyr gael defnyddio'r iaith yn y gweithle
· sefydlu comisiynydd fuasai'n amddiffyn buddiannau'r iaith a'i siaradwyr

Mae'r Gymdeithas wedi trafod gyda Morrisons ers peth amser ac maent wedi addo gwneud nifer o newidiadau ond nid ydynt wedi gweithredu ar y rhain. Yr ydym wedi gofyn i Morrisons ddarparu:

1. Arwyddion parhaol dwyieithog
2. Posteri / taflenni dwyieithog
3. labeli cynnyrch eu hunain yn ddwyieithog
4. Adran o'r wefan yn Gymraeg
5. Cynnyrch lleol ar werth
6. Cyhoeddiadau uchelseinydd dwyieithog
7. Hyfforddiant yn y Gymraeg i'r staff

Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i ni i gyd fel Cymry, boed siaradwyr Cymraeg neu beidio, ac yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi a'i gwarchod. Yn ogystal, dylai'r gallu i ddefnyddio'ch iaith eich hun yn eich gwlad eich hun fod yn hawl sylfaenol.

Mae'r ymgyrch wedi derbyn cefnogaeth eang oddi wrth grwpiau a mudiadau gwahanol dros Gymru a chan nifer o'r pleidiau gwleidyddol hefyd, ond mae'n rhaid i ni ofalu na chawn ddeddf wan ac aneffeithiol ond deddf sydd am wneud gwahaniaeth ac am roi'r parch a'r hawliau dyledus i'r Gymraeg a'i siaradwyr.

DEDDF IAITH NEWYDD - DYMA'R CYFLE!

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig