tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Herio Morrisons Bangor yn yr Ymgyrch Dros Ddeddf Iaith

Archfarchnad MorrisonsAm 2.30 prynhawn dydd Sadwrn 08.12.07 fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal protest tu allan i siop gadwyn Morrisons ym Mangor. Hon oedd y drydedd mewn tair protest i Gymdeithas yr Iaith ei chynnal yn erbyn y cwmni hwn. Bythefnos yn ôl cynhaliwyd protest yn erbyn Morrisons Caerfyrddin, yna dydd Sadwrn diwethaf bu protest debyg yn erbyn Morrisons Aberystwyth. Bu y brotest ym Mangor yn dilyn cyfarfod hanesyddol gynhaliwyd ddydd Mercher diwethaf rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Rhodri Glyn Thomas y Gweinidog Treftadaeth. Yn y cyfarfod hwnnw trafodwyd pa egwyddorion ddylid ei gynnwys mewn Deddf iaith Newydd a'r amserlen ar gyfer cyflwyno deddfwriaeth o'r fath.

Dywedodd Hywel Griffiths Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith oedd yn y cyfarfod:
“Roedd hwn yn gyfarfod buddiol iawn ac fe gawsom gyfle i bwysleisio fod yn rhaid i unrhyw ddeddfwriaeth newydd sicrhau statws swyddogol i'r Gymraeg, sicrhau fod hawliau ieithyddol penodol gan bobl Cymru i ddefnyddio'r Gymraeg a derbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, a sefydlu Comisiynydd Iaith. Mae'r brotest ym Mangor heddiw yn pwysleisio hefyd na fydd unrhyw ddeddf iaith yn gyflawn os nad oes ganddi bwerau sy'n ymestyn i'r sector breifat. Mae cwmnïau fel Morrisons a Tesco yn enghreifftiau clasurol o'r math o gwmnïau preifat ddylai fod yn atebol i Ddeddf Iaith.

“Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.
Bu ail gyfarfod lle gwnaed addewid gan Morrisons y byddent mewn sefyllfa erbyn Hydref 2007 i ail-frandio un o'i siopau yng Nghymru fel siop brawf yn y ffyrdd mwyaf syml:
* Arwyddion parhaol dwyieithog tu fewn a thu fas y siop
* Cyhoeddiadau dwyieithog dros yr uchelseinydd
* Hyfforddiant Cymraeg i'r staff ar gyfer defnydd yn y siop
* Datblygu cynnyrch Cymru
* Gwneud y rhan berthnasol o'r wefan yn ddwyieithog

Roeddent hefyd wedi addo cysylltu gyda Cymdeithas yr Iaith a chyrff eraill a'r cyhoedd i fesur ymateb i'r siop brawf dwyieithog cyn estyn y polisi i'w siopau drwy Gymru fel rhan o'u hail-frandio. Cafwyd addewid y byddent erbyn yr Hydref yn ymateb i'r gofynion canlynol gan y Gymdeithas:
* Y byddai'r holl daflenni a phosteri wythnosol i hyrwyddo Morrisons yn defnydio'r Gymraeg, ac
* Y byddai'r labeli ar gynnyrch Morrisons yn ddwyieithog (yn dilyn y norm aml-ieithog ar gyfandir Ewrop) gan gychwyn gyda'u cynnyrch hunan-frand eu hunain (7,000 ohonynt, yn gyntaf y rhai wedi'u gwneud yng Nghymru gan fod angen cynhyrchu labeli arbennig ar eu cyfer)

Pwysleisiodd y Gymdeithas mai gweithredu ar y 2 fater olaf hyn fyddai'n golygu defnydd o ddifri o'r Gymraeg yn eu busnes; mae'r argymhellion cyntaf - er yn bwysig - yn fwy symbolaidd. Dywed Hywel Griffiths eto:
"Gan nad yw Morrisons wedi glynu at eu gair rhaid i ni gasglu eu bod wedi torri eu haddewid. Dyna pam yr ydym yn protestio ym Mangor eto.”

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig