tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Diffyg ymateb gan Gyngor Abertawe

Cyngor Saesneg AbertaweMae Cyngor Abertawe dal i lusgo'i traed ynghylch ei polisi iaith yn y ddinas meddai aelodau Abertawe o Gymdeithas yr Iaith. Er gwaetha'r ffaith fod y Cyngor wedi datgan ar sawl achlysur ei bod yn hybu dwyieithrwydd yn y ddinas, yn ymarferol maent yn hollol ddiffygiol yn gwireddu hyn.

Mae cwynion gan Gell Abertawe wedi llifo mewn i swyddfeydd y Cyngor ers i arwyddion uniaith Saesneg cael eu codi ar gylchdro Ynysforgan ger yr M4 ym mis Medi eleni. Fe wnaeth y Cyngor amddiffyn yr arwyddion gan ategu mai rhesymau 'gofal a diogelwch' oedd tu ol i beidio a sicrhau bod yr arwyddion yn ddwyieithog. Sarhad i'r ddinas a datganiad di-sail bu hyn.

Meddai Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol y Gymdeithas:
"Mae arwyddion dwyieithog neu aml-ieithog i'w gael ledled Ewrop mewn gwledydd lle mae mwy nag un iaith swyddogol, er enghraifft Sweden, Gwlad Belg, Sbaen, Y Swistir. Mae camau Cyngor Abertawe yn sarhad llwyr ar bobol y ddinas ag ar Gymru gyfan fel gwlad sydd ganddi ddwy iaith. Mae'r holl helynt ynghylch yr arwyddion ffordd yma, yn profi fod gwir angen Deddf Iaith Newydd fel nad yw nonsens fel hyn yn codi yn y dyfodol."

Mae'n debygol fod y broblem o ddwyieithrwydd yn Abertawe yn mynd tu hwnt i'r arwyddion uniaith Saesneg yn Ynysforgan.

Mae'n ymddangos yn awr nad yw Cyngor Abertawe ychwaith yn sicrhau bod gohebiaeth â'r dinasyddion maent yn eu gwasanaethu yn ddwyieithog.

Ymysg enghreifftiau eraill o weithredu yn uniaith neu’n Saesneg yn bennaf mae:

* dosbarthu taflenni ailgylchu i dai’r sir yn uniaith Saesneg. Mae llinell ffôn ar gael i holi am daflen Gymraeg, ond ateb Saesneg a geir.
* dosbarthu taflenni uniaith Saesneg i dai’r sir ar ddiogelwch adeg y Nadolig. Nid oes taflen Gmraeg ar gael.
* methu ateb cwyn am y ddiffyg gwasanaeth Cymraeg.
* Arwyddion eraill yn uniaith Saesneg, e.e. arwyddion perygl ar draethau.

Dywed aelod o Gymdeithas yr Iaith, Rhys ap Rhobert o Abertawe,

"Mae'n amlwg erbyn hyn nad yw Cyngor Abertawe yn ymarferol driw i'w polisi iaith. Rydym ers rhai misoedd yn awr wedi bod yn danfon cwynion a wnelo a gohebiaith, arwyddion a digwyddiadau mae'r Cyngor wedi eu drefnu sydd wedi neilltio'r Gymraeg bron yn gyfangwbwl. Mae'n amser i'r Cyngor ymateb i'n cwynion, ag i sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei danseilio yn ein dinas.Galwn ar y Cyngor i ymateb i gwynion pobl Abertawe, ag i fabwysiadu adduned am y flwyddyn newydd i gadw at ei datganiad o weithio'n ddwyieithog"

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi bod yn delio â’r Cyngor ynglyn âi pholisi iaith, ond nid oes arwydd eto ei fod wedi cael llwyddiant.

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig