tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyngor Sir Gar yn Gwrthod Cais am Dai

bawd_deddf_eiddo.jpgMae'n achos balchder mawr i Gymdeithas yr Iaith fod swyddogion cynllunio Cyngor Sir Gar wedi argymell i Bwyllgor Cynllunio y Cyngor, y dylai'r cais i adeiladu 50 o dai ym Mhont-Tyweli gael ei wrthod. Fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gyfarfod am 10.30am bore yma Iau yr 20ed o Ragfyr i drafod y cais dadleuol, a wrthwynebwyd yn chwyrn gan y gymuned leol; ac er llawenydd mawr i'r gymuned ac i aelodau'r Gymdeithas yn lleol fe gytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r swyddogion ac fe wrthodwyd y cais.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith sydd yn byw ym
Mhont-Tyweli:

"Fel y dywed y swyddogion yn eu Adroddiad, roedd y datblygiadarfaethedig hwn
yn gwbwl groes i'r hyn mae'r Cyngor ei hun yn ei ganiatau. Yn ol Cynllun Datblygu Unedol y sir ni ddylai unrhyw ddatblygiad gael 'EFFAITH NIWEIDIOL AR HYFYWEDD A BYWIOGRWYDD YR IAITH A'R DIWYLLIANT GYMRAEG', rydym am longyfarch y swyddogion am roi ystyriaeth lawn i'r effaith hwn.

Barn y swyddogion oedd:'mae amheuaeth ynglyn ag effaith y datblygiad ar iaith a chymuned Pont-Tyweli pe bae 50 o dai yn cael eu datblygu o fewn oes y caniatad.'

Rheswm cryf arall dros argymell i'r cais gael ei wrthod oedd bod y datblygiad yn
llawer rhy fawr i'r gymuned leol. Hoffwn longyfarch swyddogion a phwyllgor cynllunio'r Cyngor am eu penderfyniad calonogol."

Am fwy o fanylion pwyswch yma.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig