tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas ar y ffordd yn y frwydr dros Ysgolion Gwynedd

Ysgol MynyddcerrigBydd aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn gwthio Blwch Postio mawr 75 milltir ar draws sir Gwynedd fel rhan o’r frwydr dros ysgolion pentrefol Cymraeg y sir. Yn ystod y Daith Gerdded hon (wythnos hanner tymor) byddant yn ymweld ag ysgolion y mae Cyngor Gwynedd yn bygwth eu cau yn eu Cynllun Ad-drefnu gan annog trigolion lleol i bostio cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’r Cynllun. Ar hyd y ffordd cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus a chyngherddau.

Pwyswch yma am fanylion llawn y daith (pdf)

Meddai trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd, Osian Jones sy’n un o’r rhai sy’n bwriadu cerdded yr holl ffordd:

"Mae’r Cyngor wedi gwahodd ymatebion i’w Cynllun Ad-drefnu ysgolion. Rydyn ni’n eu cymryd nhw ar eu gair ac yn ffyddiog o gasglu cannoedd o ymatebion o wrthwynebiad i’w Cynllun. Byddwn yn cludo’r Blwch Postio llawn at swyddfeydd y Cyngor yn bersonol ar ddiwedd y Daith."

Ychwanegodd:

"Byddwn yn cychwyn y Daith Gerdded wrth Ysgol Parc ym Mhenllyn bnawn Llun yr 11eg o’r mis nesaf gan gyrraedd swyddfeydd y Cyngor am 1pm ar y Dydd Gwener. Mae’n arbennig o annheg fod y Cyngor yn rhuthro i benderfynu’n derfynol ar dynged Parc a 6 ysgol arall rhwng Mai a Gorffennaf eleni cyn eu bod nhw hyd yn oed wedi ystyried yr ymatebion i’w strategaeth sirol. Galwn ar bawb i gefnogi’r ysgolion hyn sy’n wynebu’r bygythiad cyntaf. Mae eu brwydr nhw yn frwydr dros bawb."


Stori yn y Daily Post

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig