tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Lle Canolog i Ddeddf Iaith yn y Cyfarfod Cyffredinol - Beirniadu WRU

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Fe neilltuir lle arbennig i Ddeddf Iaith yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eleni. Cynhelir y Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth dydd Sadwrn Chwefror 2 rhwng 10am a 3.30pm. Cynhelir gem rygbi rhyngwladol yn Twickenham rhwng Cymru a Lloegr yn syth wedi'r Cyfarfod am 4pm.

Amserlen llawn y Cyfarfod Cyffredinol ar gael yma.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Gweinyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae'n fwriad gan y Gymdeithas anfon llythyr o'r Cyfarfod Cyffredinol at swyddogion Undeb Rygbi Cymru yn cwyno am ddiffyg ymrwymiad yr Undeb i'r iaith Gymraeg. Yr ydym yn cwyno yn arbennig nad oes air o Gymraeg ar wefan yr undeb ac mae'r defnydd o'r Gymraeg mewn meysydd eraill yn wan ac aneffeithiol."

"Yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n waeth yw bod rygbi yn un o'r enghreifftiau prin lle cynrychioli'r Cymru ar y maes rhyngwladol. Fe fyddem felly yn disgwyl llawer mwy o ymdrech gan Undeb Rygbi Cymru i roi delwedd ddwyieithog i'w gweithgareddau. Os na fydd newid sydyn yn y sefyllfa yr ydym yn rhagweld y bydd Undeb Rygbi Cymru yn un o brif dargedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y dyfodol agos."

Bydd cynigion arbennig yn y Cyfarfod Cyffredinol yn galw:

1. ar i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno Deddf Iaith Newydd

2. fod y sector breifat, gan gynnwys cwmniau fel Tesco, Morrisons, Orange, Abbey, Boots, Brains yn cael eu cynnwys yn y mesur iaith arfaethedig

3. ar i'r Gweinidog Iechyd i sicrhau gwasanaeth Cymraeg cyflawn yn y Gwasanaeth Iechyd, ac yn datgan fod angen Cymreigio y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a bod y preifateiddio sy'n digwydd yn y gwasanaeth hwnnw yn milwrio yn erbyn y Gymraeg.

Pwyswch yma i lawrlwytho'r Cynigion (pdf)

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Cyf Cyff (gynt) | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig