|
|
|
Cyhuddo’r Llywodraeth Glymblaid o dorri un o addewidion Cymru’n Un
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad yn hallt ar ôl cyhoeddiad y Gweinidog Diwylliant Rhodri Glyn Thomas brynhawn dydd Mawrth mai dim ond £200,000 y flwyddyn am dair blynedd y mae’n barod i’w roi tuag at y wasg Gymraeg, a hynny er gwaethaf addewid eglur yng Nghytundeb Cymru’n Un yn nodi y byddai lefel y gefnogaeth gan y Llywodraeth yn cynnwys cymhorthdal penodol a fyddai’n ddigonol i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Mewn llythyr at Rhodri Glyn Thomas mae’r Gymdeithas yn cyhuddo’r Llywodraeth Glymblaid o dorri un o addewidion Cymru’n Un. “Mae’r ymrwymiad i bapur dyddiol yn gwbl amlwg yn Cymru’n Un” meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. “Mae llawer o bobl Cymru wedi cefnogi’r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru ar sail yr addewidion a wnaed yn y cytundeb hwnnw, ac mae’r penderfyniad i beidio â pharchu’r cymal hwn ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn golygu bod y ddwy blaid wedi torri eu haddewid i bobl Cymru”.
Roedd cwmni Dyddiol Cyf., un cwmni a allai fod wedi sefydlu papur dyddiol, a’r unig gwmni sydd wedi gwneud ymchwil i’r posibilrwydd o gychwyn papur dyddiol Cymraeg, wedi nodi y byddai angen rhwng £600,000 a £1miliwn yn y flwyddyn gyntaf er mwyn sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Mae’n amlwg nad yw Llywodraeth y Cynulliad, drwy gynnig chwarter hyn i’w rannu gyda’r holl gyhoeddiadau presennol hefyd, o ddifrif ynghylch cefnogi’r wasg Gymraeg. Roedd arolwg annibynnol Dr Tony Bianchi o’r wasg Gymraeg, a gomisiynwyd ar gais Rhodri Glyn Thomas, wedi nodi’n glir bod angen cymhorthdal sylweddol er mwyn gwireddu’r cynllun o gael papur dyddiol.
“Mae llywodraethau eraill yn Ewrop yn rhoi miliynau o bunnoedd i gefnogi gweisg mewn ieithoedd lleiafrifol, gyda Llywodraeth Gwlad y Basg, er enghraifft, yn rhoi grant o dros filiwn o bunnoedd y flwyddyn i'r Papur Dyddiol Basgeg Berria. Mae'r un nifer yn siarad y Gymraeg ag sy'n siarad Basgeg.” meddai Hedd Gwynfor, Is-Gadeirydd y Gymdeithas. “O dan Siarter Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol Ewrop mae cyfrifoldeb ar y Llywodraeth tuag at y wasg brintiedig Gymraeg.” Nododd Pwyllgor Arbenigwyr Cyngor Ewrop mewn adroddiad yn 2004 bod diffyg yn y wasg brintiedig Gymraeg yn destun pryder: “O gymharu ag ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol eraill yn Ewrop sydd mewn sefyllfa debyg i’r Gymraeg yn y Deyrnas Unedig, mae hyn yn afreolaidd”.
“Mae Llywodraeth y Cynulliad yn honni o hyd eu bod am greu Cymru ddwyieithog, ond does dim sylwedd y tu ôl i’r rhethreg” meddai. “Mae nhw'n barod i daflu miliynau at brosiectau eraill fel yr ydym wedi gweld yn ystod y dyddiau diwethaf, ond yn rhoi dim ond briwsion i'r wasg Gymraeg ac yn gadael cynlluniau i sefydlu papur dyddiol i wywo er gwaetha’u haddewidion. Y Gymraeg yw’r gymuned ieithyddol fwyaf yn Ewrop sydd heb bapur newydd dyddiol. Mae papur dyddiol yn hanfodol ar gyfer unrhyw iaith fyw heddiw. Faint yn fwy o addewidion Cymru'n Un fydd yn Llywodraeth yn cefnu arnynt? Coleg Ffederal Gymraeg? Deddf Iaith newydd?"
Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith
| Newyddion
.
|
GIG: Heather Jones, Al Lewis, Sweet Baboo, DJ Dyl Mei CAERDYDD
22 Mai, 2008
|
Cyfarfod "Cadwn Ein Hysgolion Pentrefol Cymraeg", Eisteddfod yr Urdd
26 Mai, 2008
|
Lansiad ymgyrch "Mynnwn Goleg Cymraeg, nid Cwango arall", Eisteddfod yr Urdd
28 Mai, 2008
|
Mae'r 'sgrifen ar y mur! O ddifrif am y Gymraeg!, Eisteddfod yr Urdd
30 Mai, 2008
|
BEDROC 2008: Dafydd Iwan, Hanner Pei - BEDDLLWYNOG
20 Mehefin, 2008
|
|
Rhagor...
|

|
|