|
|||||
|
|
|
Colli Tryweryn - Colli Ysgolion - Colli Iaith
Arweiniwyd y cerddwyr gan drefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd, Osian Jones, a esboniodd: "Byddai cau ysgolion fel y Parc yn golygu dedfryd ohiriedig o farwolaeth ar y gymuned Gymraeg leol. Byddai’r gymuned yn heneiddio gan na byddai rhieni ifainc mor barod i fyw mewn cymuned heb ysgol." "Collwyd cymuned Gymraeg o ganlyniad i golli Tryweryn, ond fe allem ni golli llawer yn fwy o gymunedau Cymraeg os na bydd gwrthwynebiad cryf i gynllun presennol Cyngor Gwynedd. Digalon oedd colli Tryweryn, ond mae cofio Tryweryn yn ein cryfhau i wynebu brwydr newydd." Roedd y gantores enwog, Heather Jones, yn canu'r gan 'Colli Iaith' yn y Capel Coffa ac yn hwyrach bydd cyngerdd gyda’r plant lleol yn Ysgol y Parc am 7pm (Nos Lun). Pwyswch yma am fanylion y daith
Mwy yn yr un categori(au): Addysg
| Gwynedd Môn
| Newyddion
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||