tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Caffi'n Costa'n ddrud i gymuned Aberystwyth

Costa Coffee AberyswythFe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi Caffi Costa, Aberystwyth ddydd Llun 18/2/08, ar ddiwrnod ei agoriad, mewn protest oherwydd diffyg parch llwyr y cwmni at yr iaith Gymraeg a'r gymuned leol. Anwybyddwyd llythyr y Cyngor Tref a ofynodd i'r cwmni i gyflwyno arwyddion dwyieithog ac anwybyddwyd rheolau y Cyngor Sir a ddywed mai siopau yn unig sy'n cael agor ar stryd fawr Aberystwyth.

Fe fydd y biced yn cychwyn am 9am ac yn parhau tan 5pm, gyda siaradwyr yn annerch y picedwyr a thrigolion Aberystwyth am 12.30pm. Ymysg y siaradwyr bydd Geraint Edwards – Cymdeithas yr Iaith, Sue Mackenzie Grieve - Siop MG's a mwy.

Dywed Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

" Mae cwmni Costa wedi anwybyddu llythyr Cyngor Tref Aberystwyth a ofynodd iddynt ddarparu arwyddion dwyieithog gan ddangos amarch llwyr i’n hiaith a’n diwylliant. Mae nifer o gwmnïau bach y dref sydd yn ennill dim ond ffracsiwn o’r hyn y mae cwmni Costa yn ei ennill wedi cefnogi’r llythyr yma a chyflwyno arwyddion dwyieithog. Mae'r achos yma yn amlygu'r angen am Ddeddf Iaith gynhwysfawr a fyddai'n gorfodi cwmnïau mawrion i fabwysiadu gwasanaeth dwyieithog."

Mae'r protestwyr hefyd am dynnu sylw y cyhoedd at y ffaith fod cwmni Costa yn mewnforio nwyddau i'w caffis a ddim yn ddefnyddio cynnyrch lleol. Dywed Angharad Clwyd, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith:

" Mae bron i holl gynnyrch Caffi Costa yn cynnwys y brechdanau, yn cael eu paratoi tu allan i'r ardal ac yn cael eu mewnforio. Mae hyn mewn cyferbyniad llwyr â mwyafrif o gaffis bach Aberystwyth sydd yn prynu cynnyrch lleol. Nid yw'r caffi yn cefnogi yr economi leol, ac mae'r mwyafrif mawr o'r elw felly yn mynd tu allan i'r ardal a thu allan i Gymru.

Hefyd mae'r cwmni yn ymwybodol nad oes hawl cael caffis eistedd i fewn ar stryd fawr Aberystwyth ac eto maent wedi mynd ati i greu lle gyda 50 o seddau, sydd yn gwbwl groes i'r rheolau. Mae hyn yn dangos agwedd drahaus sydd yn cael ei amlygu ymhellach drwy eu bod wedi dwyn un o leins coffi Caffi MG's ac hyd yn oed un o'i staff.

Mae'r cwmni yn brolio ei hethos Fasnach deg ar ei gwefan, ond yn anwybyddu tegwch i'r ardaloedd lleol lle y maent yn masnachu. Galwn ar bobl Aberystwyth a'r cylch i ddweud na wrth Caffi Costa ac i gefnogi eu caffis lleol."


Cefndir:
• Mae'r cwmni wedi cyflwyno cais cynllunio i'r Cyngor Sir sydd yn gofyn am newid defnydd o'r adeilad o A1 i cyfuniad o A1 a A3. A1 yw'r radd am siop (sydd yn caniatau gwerthu bwyd i fynd allan a nifer cyfyngedig o seddi), A3 yw'r radd am gaffi.
• Derbyniodd y Cyngor y Cais cynllunio ar y 4ydd o Chwefror – y targed i brosesu ceisiadau yw 8 wythnos ond deallwn fod yna ol geisiadau ac y bydd y broses yn cymeryd tipyn hirach.
• Y tebygolrwydd yw y bydd yr pwyllgor cynllunio yn gwrthod y cais yn unol a'u rheolau o wrthod caffis ar brif stryd Aberystwyth. (Mae nifer o fusnesau lleol wedi gofyn yn y gorffennol am ganiatad i agor caffi ar y brif stryd ond wedi cael eu gwrthod). Fe fydd y cwmni mwy na thebyg yn mynd a'r achos i apel at y Cynulliad ac yn y cyfamser yn parhau i fasnachu fel A3.
• Mae'n anhebygol y bydd yr adran gynllunio yn rhoi Rhybudd Gorfodaeth i'r cwmni tra'n prosesu'r cais gan fod canllawiau'r Cynulliad yn nodi na ddylir rhoi Rhybudd Gorfodaeth os oes yna bosibiliad y caiff yr achos ei ganiatau

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig