tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Trin rhieni a chymunedau gyda dirmyg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r dull haerllug ac ansensitif y mae Cyngor Sir Gar wedi trin rhieni a chymunedau lleol lle y bygythiwyd cau eu hysgolion. Dywedodd y Gymdeithas fod polisi "Moderneiddio" addysg y sir yn llanast llwyr a galwasant ar bleidleiswyr i ddal y Cyngor yn atebol yn yr etholiadau lleol sydd ar y gorwel.

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Yn ôl strategaeth y Cyngor, roedd nifer o ysgolion i fod eisoes wedi mynd drwy'r broses ymgynghori i benderfynu ar ei dyfodol. Enwyd un ysgol ar gyfer ymgynghori ym mis Mai y llynedd gan y cCngor, ond nid ydynt wedi llwyddo i ystyried yr ysgol honno eto. "

"Mae'n amlwg fod y Cyngor wedi eu synnu gan nerth y gwrthwynebiad i'w cynlluniau i gau nifer fawr o ysgolion ac heb allu barhau gyda'u hamserlen. Eu strategaeth nawr yw ceisio digalonni cymunedau pentrefol drwy greu awyrgylch o ansicrwydd yn y gobaith y bydd rhieni yn symud eu plant o'r ysgolion dan fygythiad. Yna byddant yn disgyn fel fwltiriaid i gau yr ysgolion hynny."

"Mae'r polisi 'Moderneiddio' honedig felly yn llanast llwyr. Daeth yn amlwg na ellir talu am yr adeiladau newydd drud sy'n angenrheidiol gyda'r swm pitw o arian a ddaw o gau yr ysgolion pentrefol a dinistrio cymunedau Cymraeg. Bydd gan etholwyr Sir Gaerfyrddin y cyfle mewn ychydig wythnosau i alw'r Cyngor i gyfrif."

Adroddiad Blynyddol Rhaglen Moderneiddio yma.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig