Dros 1,000 yn arwyddo deiseb mewn pythefnos
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno deiseb i'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas yfory (dydd Llun Mawrth 3ydd 2008) yn galw arno i gadw at ei addewid i sefydlu papur dyddiol yn Gymraeg. Casglwyd dros 1,000 o enwau ar y ddeiseb mewn cyfnod cyfyngedig o bythefnos yn unig.
Dyma eiriad y ddeiseb:
"Galwn ar Lywodraeth Cymru i wireddu ar frys yr addewid clir i sefydlu papur dyddiol Cymraeg a gyhoeddwyd yn Cymru’n Un: 'Byddwn yn cynyddu’r cyllid a'r gefnogaeth a roddir i gylchgronau a phapurau newydd Cymraeg, gan gynnwys sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.' Galwn am gyhoeddiad newydd gan y Llywodraeth bod swm digonol yn cael ei neilltuo’n benodol ar gyfer sefydlu papur cenedlaethol annibynnol yn Gymraeg, yn unol â'r ymchwil sydd wedi ei wneud gan sefydliadau profiadol yn y maes."
Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym yn pryderi'n fawr iawn nad ydyw Llywodraeth yma yn barod i weithredu o ddifrif er mwyn sicrhau dyfodol i'r Gymraeg. Galwn ar y Gweinidog yn awr i brofi bod gan y Llywodraeth yr ewyllys i weithredu'n gadarnhaol dros y Gymraeg trwy gyhoeddi amserlen bendant ar gyfer sicrhau Deddf Iaith Newydd gref fydd yn sefydlu statws swyddogol I’r Gymraeg, hawliau iaith a Chomisiynydd Iaith. Ni fyddwn yn bodloni ar ddim llai"
Dyma eiriad y llythyr sy'n cyd-fynd â'r ddeiseb:
Annwyl Rhodri Glyn Thomas,
Dyma gyflwyno ichi gopi o ddeiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy’n galw arnoch ar frys i weithredu’r addewid clir i sefydlu papur dyddiol Cymraeg a gyhoeddwyd yn Cymru’n Un. Casglwyd dros fil o enwau ar y ddeiseb mewn cyfnod o bythefnos yn unig.
Nodwn y pwyntiau yma hefyd mewn ymateb i’r “rhesymau” a roddwyd gennych dros dorri eich addewid yn eich llythyr diwethaf atom.
1) Cylchrediad
Ni chytunwn fod 700 o danysgrifwyr yn nifer siomedig. Yn ein barn ni mae 700 o bobl yn rhoi ymrwymiad i brynu papur nad yw’n bodoli heb fawr o ymgyrch marchnata yn arwydd gobeithiol iawn.
2) Hysbysebu
Gwyddoch fod y Western Mail a’r Daily Post yn elwa’n sylweddol iawn o bolisi hysbysebu’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill. Mae rhai miliynau o bunnoedd bob blwyddyn yn mynd i’w coffrau oherwydd hyn. Y gwir yw fod y Llywodraeth yn cefnogi’r wasg Saesneg yng Nghymru yn helaeth iawn – llawer mwy na £600,000 y flwyddyn – mewn sybsidi anuniongyrchol i Trinity Mirror, ac wedi bod yn gwneud ers blynyddoedd.
3. Gwasg fregus
Mae’n rhaid i’r Wasg Gymraeg ddatblygu mewn ffordd arwyddocaol a chyffrous. Does gan yr un cyhoeddiad hawl i fodoli am byth bythoedd dim ond am ei fod yn bodoli’n barod. Roedd cyfle i gael llais newyddiadurol annibynnol yn Gymraeg a fyddai’n cael impact ar drafodaeth gyhoeddus yng Nghymru, gyda staff newyddiadurol sylweddol heb ei debyg. Roedd cyfle i fynd â’r wasg Gymraeg i gyfnod newydd. Os mai amddiffyn y bregus oedd sail y penderfyniad, yna y neges ganddoch yw fod dim parch at fenter nac uchelgais.
4. Newyddion ar y We
A phob tegwch i Dyddiol Cyf, roedd eu cynllun yn cynnwys papur dyddiol ar y we ochr yn ochr â phapur print. Rhaid talu am newyddiaduraeth safonol ble bynnag mae hi’n cael ei chyhoeddi. Fodd bynnag dydy papurau ar y we ddim yn hyfyw eto. Maen nhw i gyd yn ddibynol ar eu fersiynau print er mwyn cael ffrwd incwm.
I gloi, pwysleisiwn fod Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg wedi pasio cynigion dros y blynyddoedd yn cefnogi’r uchelgais o gael papur dyddiol annibynnol yn Gymraeg er mwyn cryfhau democratiaeth yng Nghymru ac er mwyn cryfhau’r iaith Gymraeg. Yn hyn o beth, mae diffyg egwyddor y Llywodraeth yn y mater yma yn ein pryderi’n fawr.
Yn ystod ein Rali Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd a gynhaliwyd ar risiau’r Senedd dydd sadwrn diwethaf fe wnaeth y siaradwyr a’r dorf gyhoeddi galwad eglur; bod dyletswydd a rheidrwydd amlwg ar y Llywodraeth yn awr i brofi ei bod o ddifrif am ddyfodol y Gymraeg.
Mae’r penderfyniad i beidio cefnogi sefydlu papur dyddiol Cymraeg wedi ei gyplysu gyda’r cyhoeddiad am swm arian cwbl annigonol at Goleg Ffederal Cymraeg yn cynyddu’r pwysau arnoch i sicrhau ddeddf iaith gref. Ni fodlonwn ar ddim llai na deddf iaith fydd yn sefydlu statws swyddogol i’r Gymraeg, hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd a Chomisiynydd i’r iaith Gymraeg.
Yn gywir,
Hywel Griffiths,
Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mwy yn yr un categori(au): Darlledu
| Newyddion
.
|