tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Dadl Ysgolion Pentrefol yn y Cynulliad Heddiw

Galwad am gymryd o ddifri effaith cau ysgolion ar yr iaith

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAr y diwrnod y trafodir y pwnc yn y siambr, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar swyddogion y Cynulliad i ymchwilio o ddifri i effaith cau ysgolion pentre’ ar yr iaith ac i roi heibio’r astudiaethau arwynebol presennol.

Gan siarad o flaen y cynnig gan y Ceidwadwyr y dylai Llywodraeth y Cynulliad drefnu asesiad ardrawiad iaith cyn y caeir unrhyw ysgol, dywedodd Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg),

"Ar hyn o bryd y mae swyddogion y Cynulliad yn ymfodloni ar un frawddeg o asesiad o’r effaith ar yr iaith. Dywedir fod cyfle i blant ysgol sy’n cau cael eu trosglwyddo i ysgol arall Gymraeg ei chyfrwng ac nad oes problem. Anwybyddir y ffaith fod disgyblion - ac yn enwedig plant mewnfudwyr - yn gweld y Gymraeg wedyn yn gyfrwng academaidd yn unig yn hytrach nag yn gyfrwng mynediad i’r gymuned y maent wedi dod yn rhan ohoni. Anwybyddir effaith colli’r ymdeimlad o berthyn i gymuned Gymraeg ymhlith y plant a’r rhieni ifainc sydd wedyn yn dilyn eu plant i weithgareddau yn y gwahanol ysgolion newydd. Anwybyddir effaith fod cymuned bentrefol Gymraeg arall yn heneiddio a holl ddeinameg cyfathrebu cymuned Gymraeg. Mae’n bryd gymryd y pwnc o ddifri a sicrhau asesiadau proffesiynol o’r effaith ar yr iaith ac ar gymunedau lleol o gau ysgolion.”

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig