Dyfodol Ysgolion Pentrefol Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn - Edrychwch ar y darlun mawr
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorau Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn i gydweithio gyda'i gilydd a chyda Cholegau Menai, Llandrillo a Meirion-Dwyfor i drefnu cynhadledd o’r holl gyrff Cyhoeddus perthnasol i drafod sut y gellir datblygu ysgolion pentrefol fel rhan o strategaeth adfywio'n cymunedau pentrefol Cymraeg.
Mae'r Gymdeithas wedi cymryd y cam hwn ar adeg pryd y mae Cyngor Gwynedd yn adolygu dyfodol degau o ysgolion pentre', ac mae Ynys Môn wedi penderfynu cyhoeddi Rhybuddion Statudol i gau ysgolion Aberffraw a Llanddeusant - er bod y penderfyniad i gyhoeddi rhybudd yn achos Llanddeusant yn gorfod cael ei adolygu gan y Pwyllgor Gwaith yr wythnos nesaf.
Mewn llythyr at arweinwyr y tri chyngor ac at brifathrawon y tri choleg, mae Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg) yn apelio arnynt i edrych ar le'r ysgolion yn 'y darlun mawr' o adfywio'n cymunedau pentrefol Cymraeg. Yn ei lythyr, dywed,
"Mae'n anhygoel fod y ddau Gyngor yn cynnig cau ysgolion fel Aberffraw, Llanddeusant a'r Parc sydd yng nghanol pentrefi ac yn ganolbwynt i fywyd cymunedol ifainc yn y pentrefi. Mae’n cymunedau pentrefol Cymraeg tan bwysau o bob cyfeiriad ac yn y darlun mawr o'r angen i'w diogelu a'u hadfywio, byddem yn creu adnoddau fel ysgolion ynddynt pe na baent ar gael yn barod. Mae'n anhygoel fod un rhan o'r cynghorau am gau'r ysgolion oherwydd eu bod yn eu gweld yn ffatrïoedd addysg statudol yn unig yn hytrach nag fel adnoddau cymunedol gwerthfawr y mae cyflwyno addysg statudol yn rhan yn unig o'u swyddogaeth."
"Unwaith yr edrychir ar y darlun mawr, y mae'r ysgolion hyn nid yn unig yn hyfyw ond hefyd yn hanfodol. Nid yw cyfarfodydd ffurfiol mudiadau a gynhelir ond yn gopa'r mynydd ia o ran cyfathrebu gymunedol. Er mwyn adfywio'n cymunedau, mae angen creu canolbwyntiau - fel ysgol, siop, Post, cae chwarae etc - i alluogi cyfathrebu cymunedol organig, ac yn enwedig ymhlith ieuenctid ac oedolion ifainc. Mae angen hefyd sicrhau fod ystod eang o wasanaethau cyhoeddus ar gael er mwyn annog pobl i ymgartrefu yn y cymunedau pentrefol Cymraeg."
"Galwn arnoch i drefnu cynhadledd o'r holl gyrff cyhoeddus sy'n cyflwyno gwasanaethau i'r pentrefi ac yn gyfrifol am bolisïau adfywio. Dylid trafod sut y gellir llawn ddefnyddio adnoddau ac adeiladau ysgolion pentrefol i adfywio’r cymunedau gan gynnwys addysg gymunedol a sgiliau newydd, dysgu Cymraeg i oedolion ac i deuluoedd, meithrinfeydd, a lleoli swyddi swyddogion cyngor a chyrff eraill tu fewn i gapasiti sbâr ysgolion pentrefol."
"O gyfuno gwahanol gyllidebau ac edrych ar y darlun cyflawn, fe ddaw'r unedau hyn yn hyfyw. Gellir dileu capasiti sbâr, a'r 'lleoedd dros ben' enwog trwy droi rhai stafelloedd yn yr ysgolion at ddibenion eraill, fel Meithrinfa neu Ganolfan Dechnoleg neu'n swyddfa i swyddogion cyngor yn lle bod pawb yn teithio i Neuadd y Sir. Dyma ddod ag incwm ychwanegol i mewn i gynnal yr asedau gan ganiatáu i'r ysgolion barhau i gynnig addysg o’r radd flaenaf tu fewn i'r gymuned leol ac mewn perthynas ag ysgolion cyfagos."
"Trwy wneud hyn, bydd y polisi ar ysgolion yn gydnaws a strategaethau amgylcheddol a datblygu cymunedol y cynghorau yn lle tynnu i gyfeiriad croes."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi'r alwad hon yn awr er mwyn dangos fod gwir alternatif i bolisi negyddol cau ysgolion pentrefol Cymraeg. Byddwn yn atgoffa'r cynghorau o’r alwad hon mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn ar ddiwedd mis Mai er mwyn mynnu nad oes symud ymlaen gyda’r polisi dinistriol o gau’r ysgolion.
Mwy yn yr un categori(au): Addysg
| Gwynedd Môn
| Newyddion
.
|