tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cymuned San Clêr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.

Dywed Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Unwaith eto cawn enghreifftiau o gwmnïau datblygu mawr yn ceisio creu'r elw mwyaf posib ar draul ein cymunedau Cymraeg drwy nodi ffigyrau afresymol o uchel o dai, fel y gwelwyd ym Mhorthyrhyd, Pont-Tyweli a Waungilwen. Mae'r ffigwr, ar nifer o safleoedd o fewn pentref San Clêr, ddwywaith yn fwy na'r hyn a ddynodwyd o fewn Cynllun Datblygu Unedol y sir, gyda nifer o ddatblygiadau eisoes wedi cael eu cymeradwyo a'r gwaith wedi cychwyn. Gofynnwn yn nawr ar adran gynllunio'r Cyngor Sir i wrthod y ceisiadau sydd yn weddill gan fod hyd at 255 o dai eisoes wedi cael eu cymeradwyo ers cychwyn cyfnod y Cynllun Datblygu Unedol. Dim ond 270 o dai a ddynodwyd i'w hadeiladu drwy gydol cyfnod y Cynllun Datblygu yn y pentref - sydd i bara tan 2016."

"Yn ol cyfrifiad 2001 mae 56.3% o drigolion San Cler yn siarad Cymraeg, 4.7% yn llai nac yn 1991. Fe fyddai cynyddu nifer o dai y pentref o tua 1200 i 1700 dros gyfnod mor fyr yn cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig