tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Maer tref Caerfyrddin yn cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith

Ble mae'r Gymraeg?Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd Maer Tref Caerfyrddin yn llenwi ffurflen gwyno y tu allan i siop Tesco yng Nghaerfyrddin bore dydd Iau y 27/3 am 11am. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth a Ebrill.

Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:

"Fe fyddwn yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma ynglyn â'u polisi iaith ddiffygiol. Fe fyddwn hefyd yn trefnu picedi a phrotestiadau y tu allan i ganghennau Tesco a Morrisons ledled Cymru dros y deufis nesaf."

Ychwanegodd:

"Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol yn ddwyieithog: pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain, pecynnu cynnyrch ei hunain. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu allan i Tesco yng Nghaerfyrddin fore Iau gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog. Fe fydd Maer Caerfyrddin yn arwain y ffordd drwy ysgrifennu llythyr o gwyn y tu allan i'r siop. Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tesco a Morrisons ac mae'n amlwg bellach os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statws cyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocinistaidd Cymraeg yn unig y gallwn ddisgwyl. Galwn felly ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig