tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llwyddiant Addysgol Ysgolion Bach

Cadwn Ein Hysgolion.JPG
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw Gweinidog Addysg Cymru at lwyddiant ysgol fach 26 o blant yng Ngheredigion. Mae ysgol Dihewyd wedi derbyn adroddiad disglair gan y corff arolygu Estyn.

Dywedodd yr adroddiad:
"Mae partneriaeth yr ysgol gyda rhieni a'r gymuned yn nodweddion rhagorol o'r ddarpariaeth...... Mae hon yn ysgol sydd yn wirioneddol galon ei chymuned."

Wrth dynnu sylw Jane Hutt AC at yr adroddiad dywedodd Aled Davies o Gymdeithas yr Iaith:
"Dyma adroddiad sy'n dangos mor bwysig yn addysgol yw cefnogaeth cymuned a rhieni i ysgol bentrefol. Dylid cydnabod llwyddiant addysgol ein hysgolion pentrefol a cheisio dysgu gwersi oddi wrthynt, yn hytrach na bygwth cau ysgolion o'r fath. Mae hefyd yn arwyddocaol fod yr Arolygydd a gyfansoddodd yr adroddiad ar Ysgol Dihewyd yn Gyn-Ddirprwy Addysg yn Sir Gaerfyrddin. Ers hynny mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cychwyn ymgyrch o ymosod ar ysgolion bach o'r fath."

Manylion ychwanegol:
*Copi o'r adroddiad -http://dyffrynaeron.com/ffeiliaupdf/estyndihewyd.pdf
* Mewn cyfweliad gyda'r Cambrian News dywed Martin Cray yr Arolygydd a
gyfansoddodd yr adroddiad:
" Rwyf wedi arolygu dros 200 o ysgolion mewn 19 sir ar draws Cymru, ac
fe fuaswn yn gosod Ysgol Dihewyd yn y 10% uchaf."
* Am fwy o fanylion ffoniwch Angharad Clwyd ar 01559 384378

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Ceredigion | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig