tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Piced Iaith yn y Brifddinas ac ym Mangor

Ble mae'r Gymraeg?Cynhaliwyd bicedi tu allan i Tesco Express Salisbury Road yng nghanol Cathays, Caerdydd a thu allan i Tesco Bangor heddiw. Roedd y digwyddiadau yma yn rhan o ddeufis o weithgaredd gan Gymdeithas yr Iaith yn erbyn Morrisons a Tesco i bwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd gynhwysfawr. Bydd mwy o bicedi a phrotestiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.

Tesco yw un o'r cwmniau mwyaf sy'n masnachu yng Nghymru â mae nhw'n
gwneud elw enfawr - bron i £3 biliwn llynedd - ac yn parhau i dyfu, gyda changhennau newydd yn agor ar hyd y wlad. Er hyn, tocenistiaeth yn unig yw eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda'r ddarpariaeth bitw hwnnw yn aml yn israddol ac yn wallus.

Meddai Elain Llwyd, Cadeirydd Cell Prifysgol Caerdydd:

"Yn ystod y misoedd diwethaf mae Cell Cymdeithas yr Iaith PrifysgolCaerdydd wedi bod yn arsylwi canghennau Tesco Cathays. Mewn holiadur darpariaeth Gymraeg o gangen Salisbury Road cafwyd cyfanswm o 3 allan o 100. Ni yw maint y gangen yn esgus am y diffyg darpariaeth Gymraeg. Nid oes arwyddion dwyieithog ar gyfyl y lle, a dyma un o'r camau hawsaf a symlaf i gwmni mawr fel Tesco i gymryd - mae gan siaradwyr Cymraeg hawl sylfaenol i ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd o fywyd."

Meddai Osian Jones, Swyddog Maes y Gymdeithas yn y Gogledd:

"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Tesco i wella'u darpariaeth i gynnwys mwy na elfennau arwynebol e.e. arwyddion nad oes ond rhaid eucodi unwaith. Dylai cwmniau fel Tesco sicrhau bod eu harwyddion parhaol,arwyddion a thaflenni tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd, pecynnu nwyddau eu hunain yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i'w gweithwyr er mwyn creu tîm o staff dwyieithog. Dangosa'r ddarpariaeth bresennol ddiffyg parch tuag at yr Iaith a'i siaradwyr."


picedu-tescocaerdydd.jpg

picedu-tescocaerdydd1.jpg

picedu-tescocaerdydd2.jpg

picedu-tescocaerdydd3.jpg

picedu-tescocaerdydd4.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig