tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ewch y filltir ychwanegol

bawd_deddf_eiddo.jpgTra'n cefnogi cynnig Llywodraeth y Cynulliad i hybu awdurdodau lleol i brynu tai a'i rhentu yn ôl i berchnogion tai â phroblemau ad-dalu morgeisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu'r syniad a sefydlu polisi 'hawl i rentu'.

Meddai Iestyn ap Rhobert, cadeirydd grŵp ymgyrch Cymunedau Rhydd:

"Os dymunwn weld cymunedau Cymraeg yn goroesi, mae'n rhaid bod amcanion fel yr un mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei grybwyll yn agored i breswylwyr lleol, a fydd yn caniatáu i bobol barhau i fyw yn eu hardal. Mewn gwirionedd, mae nifer ohonynt heb y gallu i brynu tai lleol yn y lle cyntaf."

"Rydym yn galw ar Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu'r syniad yma o ganiatáu awdurdodau lleol i brynu tai - sydd yn bresennol ar gael am bris llai na'r arferol - a'u rhentu i bobol leol. I gymunedau Cymraeg oroesi, rhaid sefydlu'r egwyddor 'yr hawl i rentu' yn hytrach na'r 'hawl i brynu'."

Meddai Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Byddai sicrhau yr hawl sylfaenol yma yn caniatáu i bobl leol Sir Gâr i aros yn eu
ardaloedd lle bo prisiau tai ymhell o'u gafael, ag yn hwb mawr i gymunedau Cymraeg y sir. Mae'r un p[eth yn wir am gymunedau trwy Gymru gyfan."

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig