tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith yn targedu Tesco Rhydaman

Ble mae'r Gymraeg?
Fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i atgoffa Llywodraeth y
Cynulliad o'r angen am ddeddfwriaeth gref ym maes y Gymraeg, bydd
aelodau o'r Gymdeithas yn picedi y tu fas i siop Tesco yng Rhydaman
prynhawn dydd Sadwrn y 26/4 am 2pm. Fe fydd Cymdeithas yr Iaith
yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis o hyn tan ddiwedd y flwyddyn gan
ganolbwyntio ar gwmniau Tesco a Morrisons yn ystod mis Mawrth ac Ebrill.

Tesco yw un o'r cwmniau mwyaf sy'n masnachu yng Nghymru a mae nhw'n
gwneud elw enfawr - bron i £3 biliwn llynedd - ac yn parhau i dyfu,
gyda changhennau newydd yn agor ar hyd y wlad. Er hyn, tocenistiaeth
yn unig yw eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gyda'r ddarpariaeth bitw
hwnnw'n aml yn israddol ac yn wallus.

Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:

"Fe fyddwn yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru,
ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym
yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o g?yn i'w ddanfon at y cwmniau
yma ynglyn â'u polisi iaith diffygiol."

Ychwanegodd:

"Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol yn
ddwyieithog: pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol ac
arwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain, pecynnu cynnyrch ei
hunain. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n
bosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a
chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu fas i Tesco yng Rhydaman
brynhawn Sadwrn gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eu
gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog.
Rydym wedi bod mewn trafodaethau gyda Tesco a Morrisons ac mae'n amlwg
bellach os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statws
cyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocenistaidd Cymraeg yn unig y
gallwn ddisgwyl. Galwn felly ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau
bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig