tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cychwyn o'r newydd o ran ysgolion yw neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad Cynghrair Ysgolion Gwynedd ar i’r Cyngor newydd gydnabod nad oes modd bellach iddo fynd ymlaen i basio’i Gynllun dadleuol i ad-drefnu ysgolion yn y sir. Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:

"Mae’r un sefyllfa’n wynebu pwy bynnag fydd yn arwain y Cyngor. Fyddwn ni’n gwybod dim tan y flwyddyn nesaf am ddulliau cydweithio newydd rhwng ysgolion, a byddai’n gwbl annheg rhuthro i benderfynu ar ddyfodol ychydig o ysgolion unigol yn y cyfamser. Felly does gan y Cyngor ddim Cynllun ar ol i’w drafod yn ei gyfarfod ym mis Mehefin."

"Byddai’n well fod y Cyngor yn cydnabod hynny’n syth a defnyddio’r cyfle i gychwyn o’r newydd i geisio cytundeb am y ffordd ymlaen mewn cymunedau lleol.
Trwy wneud hynny, gellid creu ysbryd newydd o ymddiriedaeth ac ymdrafod difrifol ac agored. Gallai’r trafodaethau ymledu hyd yn oed i fod yn drafodaethau am ddyfodol y cymunedau Cymraeg ac nid yn unig yr ysgolion. Efallai mai dyma’r hwb i ddechrau llunio o ddifri strategaeth am ddyfodol ein cymunedau Cymraeg lleol gyda swyddogaeth allweddol newydd i ysgolion yn eu hadferiad."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig