tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gweithredu yn erbyn Morrisons Caernarfon

Ble mae'r Gymraeg?Cynhaliwyd protest gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn siop Morrisons Caernarfon Dydd Sadwrn, (Mai 3ydd 2008). Ail gyflwynwyd taflenni uniaith Saesneg y cwmni yn ôl iddynt mewn pentwr mawr wrth fynedfa'r siop. Aeth aelodau ymlaen wedyn i geisio tynnu arwydd mawr uniaith Saesneg i lawr o'r tô. Gosodwyd hefyd sticeri'n datgan “Ble mae'r Gymraeg” ar draws y siop. Cafodd yr heddlu eu galw, ond ni chafodd unrhyw un eu harestio.

Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd grŵp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith, yn dilyn y brotest:

"Rydym ni’n targedi'r cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gŵyn i'w ddanfon at y cwmnïau yma ynglŷn â'u polisi iaith ddiffygiol."

"Rydym yn galw ar y cwmnïau yma i sicrhau bod pob arwydd parhaol, deunydd marchnata tymhorol ac arwyddion dros dro, cyhoeddiadau system sain a phecynnau cynnyrch ei hunain yn ddwyieithog. Galwn hefyd arnynt i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo hynny'n bosibl a sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Ychwanegodd Mair Evans Swyddog o’r Gymdeithas yn Rhanbarth Gwynedd Môn:

“Mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod mae cwmni Morrisons wedi addo dilyn camau pendant tuag at ddilyn polisïau dwyieithog. Hyd yn hyn nid yw unrhyw un o'r camau hyn wedi eu gwireddu. Oherwydd llusgo traed cyson felly, fe wnaethom ni weithredu yn erbyn Morrisons er mwyn dangos difrifoldeb y sefyllfa. Dyma gwmni sy'n mygu cymunedau Cymru heb ddangos nemor ddim parch i'r cymunedau hynny.”

“Mae'r Gymdeithas yn fodlon sefyll yn erbyn apathi llwyr y cwmni yma, a dangos fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn fwy pwysig na phocedi cyfranddalwyr cwmnïau mawr.”

“Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod unrhyw Ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat, gan ei bod hi’n gwbwl amlwg nad yw dibynnu ar ewyllys da yn ddigon!”

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn awr yn troi eu sylw at Superdrug a Boots yn ystod misoedd Maia Mehedfin 2008. Pwyswch yma i weld rhestr llawn o dargedau'r Gymdeithas yn ystod y misoedd nesaf.


morrisonsbangor01.jpg

morrisonsbangor02.jpg

morrisonsbangor03.jpg

morrisonsbangor04.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig