tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Peidiwch gadael i'r datblygwyr twyllo'r Cyngor

bawd_deddf_eiddo.jpg

Mae cwmni datblygu Eatonfield wedi ail gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gár wedi i'w cais gwreiddiol gael ei wrthod gan y Cyngor, oherwydd y niwed fyddai'n gwneud i'r gymuned leol. Dywed Cymdeithas yr Iaith fod hon yn ymgais i dwyllo'r Cyngor er mwyn i'r datblygwyr gael eu ffordd eu hunain.

Dywed Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith sy'n byw yn lleol:

"Mae'r datblygwyr yn ceisio twyllo'r cyngor trwy ddweud eu bod am
adeiladu 31 t yn unig 'nawr, ond yr oll y maent wedi gwneud yw cyflwyno yr un cais mwy neu lai gan hepgor y tai fforddiadwy a'r tai 3 ystafell wely. Dengys eu cynlluniau fod 29 o'r 31 ty yn dai annibynol gyda 4 ystafell wely, ac mae 2 d yn unig gyda 3/4 ystafell wely. Maent hefyd yn ceisio twyllo'r cyngor i dderbyn fod yr hen ganiatad gynllunio yn dal mewn grym oherwydd bod ychydig o oriau wedi
cael eu rhoi i:
1. Agor mynediad i'r brif ffordd a 2. Ffurfio rhan o'r hewl i'r ystád,
cyn bod y caniatad gwreiddiol yn dod i ben yn 1992. Mae hyn yn gwneud
ffars o'r system gynllunio - maent yn honni fod hewl wedi cael ei
adeiladu ond does dim byd o gwbwl i'w weld.

Ffwlbri yw i'r cwmni honni fod y caniatad yn dal mewn grym 18 mlynedd
wedi iddo gael ei roi yn wreiddiol, oherwydd eu bod wedi torri twll yn
y clawdd er mwyn dangos fod y gwaith ar y gweill. Dros 18 mlynedd mae
llawer o newid wedi bod yn yr ardal ac mae'r canllawiau cynllunio
hefyd wedi newid i gynnwys mwy o ystyriaeth i anghenion y gymuned
leol. Honna'r datblygwyr nad yw'r newidiadau hyn yn berthnasol
oherwydd nad oeddent yn berthnasol pan roddwyd y caniatad gwreiddiol."

Ychwanegodd Ms Clwyd:
"Caiff y cyfreithwyr benderfynnu a fydd y datblygwyr yn llwyddiannus
yn eu twyll. Ond mae'n bendant sicr na wnaiff y gymuned leol dderbyn y
datblygiad hwn."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig