tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Rhodri Glyn yn taflu llwch i lygaid Pobl Cymru

Ble mae'r Gymraeg?Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Rhodri Glyn Thomas o daflu llwch i lygaid pobl Cymru gyda'i gyhoeddiad heddiw ei fod yn galw ar i 57 o gwmniau gydymffurfio a Deddf Iaith. Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Ar yr olwg gyntaf mae hon yn edrych yn rhestr addawol iawn, ond o edrych yn fanwl hon yw yr un rhestr yn union ag a gyhoeddwyd gan Alun Pugh y cyn weinidog Diwylliant flwyddyn yn ôl pan oedd 59 o sefydliadau arni. Awgrym pendant fod pethau wedi aros yn eu hunafan ers tro byd."

"Yn hytrach na dibynnu ar sbin gwleidyddol, galwn ar i Rhodri Glyn Thomas ganolbwyntio ei holl egnion ar sicrhau Deddf Iaith Newydd, fydd yn cynnwys y sector breifat, ac yn gwneud rhestrau fel yr un gafwyd heddiw yn ddiangen."

"Er mwyn pwysleisio'r angen am Ddeddf Iaith Newydd bu i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dargedu siop Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr gan blastro'r adeilad gyda sticeri yn galw am Ddeddf Iaith. Bydd yr ymgyrch hon yn erbyn y sector breifat yn parhau hyd nes y cawn ddeddfwriaeth gadarn ar yr iaith Gymraeg.

Darllenwch mwy am yr ymgyrch gweddnewid y sector breifat yma.


Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig