tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Rhowch derfyn ar y gyflafan - Neges Cymdeithas yr Iaith at y Gweinidog Addysg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAr derfyn gorymdaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mae Penrhyn am 3pm heddiw, bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Weinidog Addysg y Cynulliad i “atal y gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”

Meddai Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg:

“Caiff dau adroddiad sylweddol eu cyhoeddi eleni a allent gynnig llawer o bosibiliadau newydd ar gyfer ein hysgolion pentrefol. Disgwyliwn erbyn Gorffennaf ddrafft Adran Addysg y Cynulliad o’i chanllawiau newydd ar gyfer Awdurdodau Addysg Leol o ran trin ysgolion pentrefol, ac fe obeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn cydnabod gwerth ysgolion pentrefol Cymraeg. Ar yr un pryd, bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i ad-drefnu addysg gynradd mewn ardaloedd gwledig, a bydd Cadeirydd yr Is-bwyllgor (Alun Davies AC) yn ymweld yn ystod yr wythnos ag uned Cymdeithas yr Iaith ar y maes i weld tystiolaeth gan ddisgyblion, llywodraethwyr a phrifathrawon.”

Eglurodd Mr Ffransis y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried ymatebion i’r adroddiadau hyn ac yn dod i benderfyniadau tua diwedd y flwyddyn. Ychwanegodd:

“Mae’n wirion felly fod Awdurdodau Lleol yn cychwyn eleni unrhyw brosesau statudol newydd a allent arwain at gau ysgolion pentrefol cyn bod casgliadau’r ddau adroddiad hyn yn wybyddus. Galwn ar y Gweinidog i anfon cyfarwyddyd atynt i ymatal ac felly osgoi’r gyflafan arfaethedig o ysgolion pentrefol Cymraeg.”

• Am 3pm heddiw, bydd plant, athrawon a llywodraethwyr yn ymgynnull yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes y Brifwyl i dystio i bwysigrwydd ysgolion pentrefol Cymraeg i’w haddysg ac i’w cymunedau. Y prif siaradwyr fydd y disgyblion eu hunain. Wedyn bydd gorymdaith at uned Llywodraeth y Cynulliad ar y maes i gyflwyno’r llythyr. Pwyswch yma i weld copi o'r llythyr.

• Ar ddechrau’r cyfarfod, fe ddangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig”. Bydd cynrychiolydd o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru’n bresennol i weld effaith cau ysgolion ar y plant eu hunain.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Eisteddfodau | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Protest Llundain yn erbyn cwtogiad S4C
9 , 2010
80% o Gymry Cymraeg o blaid hawliau iaith
7 Medi, 2010
Bygythiad 'gweithredu'n uniongyrchol' dros ddyfodol S4C
6 Medi, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig