tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Academyddion blaenllaw yn galw a'r Jane Hutt i sefydlu Coleg ffederal llawn ac nid bwrdd yn unig

Coleg ffederal CymraegCynhelir Cynhadledd i'r Wasg am 3pm Mercher 28/5 yn uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod yr Urdd. Byddwn yn datgan fod pryder gwirioneddol y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cefnu ar ei addewid i sefydlu Coleg Cymraeg, sy'n rhan sylfaenol o Gytundeb "Cymru'n Un". Yn union fel y mae perygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau gan gwmnïau preifat mawr i'w hesgusodi o anghyfleustra Deddf Iaith newydd, y mae hefyd berygl y bydd y llywodraeth yn ildio i bwysau Sefydliadau Addysg Uwch i beidio a newid y statws quo trwy sefydlu Coleg Cymraeg grymus. Yn hytrach na Choleg Cymraeg aml-safle gyda'r holl rym a chyllid i sicrhau darpariaeth lawn o addysg uwch Gymraeg trwy'r sefydliadau ac yn ein cymunedau, y mae perygl na bydd ond cwango bach i di-nod i rannu cyllid bach ychwanegol i sicrhau ychydig o gyrsiau Cymraeg ychwanegol.

Mae'r Gymdeithas wedi trafod ein pryderon gyda darlithwyr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Sefydliadau Addysg Uwch, ac y mae'r teimlad mor gryf fel bod 29 o'r academyddion eisoes wedi arwyddo llythyr agored at y Gweinidog Addysg, Jane Hutt, yn mynnu fod y llywodraeth yn cadw at ei haddewid i sefydlu Coleg Cymraeg llawn. Mae'r llythyr at Jane Hutt yn rhestru criteria sylfaenol Coleg Cymraeg, sef:

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.
2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.
3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd ym mis Tachwedd 2007.
4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.

Isod mae copi o'r llythyr agored bydd yn cael ei basio ymlaen i Jane Hutt ynghyd ac enwau'r llofnodwyr hyd yma. Mi fyddwn yn denu mwy o lofnodwyr dros yr haf:

Annwyl Weinidog,

Yn dilyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru’n Un i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae gennym gyfle arbennig yng Nghymru heddiw i wneud gwahaniaeth o bwys i addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Ni ellir colli’r cyfle hanesyddol yma i sicrhau bod darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein sefydliadau addysg uwch yn cael ei gyd-drefnu’n briodol mewn modd sydd yn ennyn parch y sefydliadau hynny a bod darlithwyr a myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt berchnogaeth dros y cynllun. mwyn manteisio ar y cyfle hwn, mae'n bwysig bod coleg Cymraeg aml-safle yn cael ei sefydlu yn hytrach na phwyllgor neu fwrdd arall "i ddatblygu addysg uwch Gymraeg".

Credwn mai nodweddion hanfodol coleg yw:-

1. Statws statudol fel sefydliad addysg uwch â chyfansoddiad annibynnol.
2. Siarter annibynnol yn nodi ei gylch gorchwyl, gan gynnwys addysgu ac ymchwil, a darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg Cymru-gyfan.
3. Llif arian annibynnol, yn hytrach na derbyn cyfran o gyllid addysg uwch Saesneg. Yn hyn o beth, galwn ar y llywodraeth i sicrhau llif arian £20 miliwn fan leiaf, £15 miliwn yn ychwanegol at yr hyn a addawyd yn eich cynllun a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
4. Cofrestr myfyrwyr annibynnol a fyddai’n galluogi myfyrwyr i gofrestru gyda’r Coleg Ffederal Cymraeg yn ogystal ag un coleg penodol fel bod gan y coleg gorff o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ynddo ac yn teimlo perchnogaeth drosto.

Dim ond trwy gyfuno pob un o’r pedwar pwynt uchod y gellir creu Coleg Ffederal Cymraeg a fydd yn newid cwrs addysg cyfrwng Cymraeg mewn modd cwbl arloesol. O’u cyfuno, bydd yr uchod yn sicrhau bod y Coleg Ffederal Cymraeg yr un mor annibynnol a safonol a phob un SAU arall yng Nghymru. Ofer fyddai cael sefydliad â chyfansoddiad annibynnol heb sicrhau cyllid digonol ar ei gyfer.

Fel ymarferwr yn y maes pwysaf arnoch i sicrhau bod y pwyntiau uchod yn cael eu gweithredu rhag blaen.

Yn gywir
Y Llofnodwyr (hyd yma):

Dr. Delyth Morris, Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor
Bryn Jones, Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd, Prifysgol Bangor
Enlli Haf Huws Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Ysgol Gemeg, Prifysgol Bangor
Dr. Wyn Thomas Uwch-ddarlithydd, Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor
Dr William Griffith Ysgol Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Bangor
Gwenda Rhian Jones Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, Prifysgol Bangor
Dr. Dyfed Wyn Roberts Ysgol Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol, Prifysgol Bangor
Yr Athro Peredur Lynch Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor
Dr. Angharad Price Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor
Dr Wini Davies Darllenydd mewn Almaeneg, Adran Ieithoedd Ewropeaidd
Prifysgol Aberystwyth
Dr. Iolo ap Gwynn Adran Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Aberystwyth
Dr. Roger Owen Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Andy Freeman, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Charmain S Savill, Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Liz Fenwick Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Theatr Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth
Meilyr Emrys, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth
Rhun Emlyn, Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Hanes, Prifysgol Aberystwyth
Hywel Griffiths Deiliad Ysgoloriaeth ôl-raddedig 'Mantais', Adran Ddaearyddiaeth, Aberystwyth
Yr Athro Gruffydd Aled Williams Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Marged Haycock Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Dr. Huw Meirion Edwards Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth
Dr. Daniel Williams Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe
Yr Athro Dafydd Johnston Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe
Dr. A. Cynfael Lake Uwch-ddarlithydd, Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe
Dr. Tudur Hallam Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe
Dr. Mererid Hopwood Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe
Dr. Simon Brooks Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Llion Pryderi Roberts Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Dr. Dylan Foster Evans Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Eisteddfodau | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig