tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

'Mae'r Ysgrifen ar y Mur' - Deddf Iaith Newydd – Yr Her i’r Llywodraeth

Mur Graffiti Deddf Iaith NewyddAm 3 o’r gloch ar ddydd Gwener y 30ain o Fai ar ei stondin ar Faes Eisteddfod yr Urdd bydd bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio dogfen newydd i bwysleisio’r her sydd bellach yn wynebu Llywodraeth y Cynulliad ar fater y Gymraeg.

Lawnsir y ddogfen ‘O ddifrif am y Gymraeg: yr her i’r Llywodraeth’, ac fe fydd nifer o ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru yn galw heibio’r uned er mwyn arwyddo mur Deddf Iaith Newydd a dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn.

Mae’r ddogfen yn cynnig sylwadau beirniadaethol ar yr holl agweddau ar Cymru’n Un sydd yn berthnasol i ddyfodol y Gymraeg, gan gyfeirio at addysg, dyfodol ein cymunedau Cymreig, y cyfryngau a mater deddf iaith newydd. Fel rhan o’r lansiad bydd rhai o ffigyrau amlwg Cymru yn dod i arwyddo mur deddf iaith er mwyn dangos eu cefnogaeth am ddeddf iaith gyflawn. Yn eu plith fydd yr Aelod Cynulliad Alun Ffred, y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, a’r beirdd Ifor ap Glyn a Mererid Hopwood. Byddant yn ychwanegu eu henwau at y llu o enwogion a fu’n arwyddo’r wal yn Rali Dathlu’r Gymraeg y Mae Caerdydd.

mur-deddf-iaith.jpg

Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Diben y ddogfen hon yw gosod yr her gerbron Llywodraeth y Cynulliad mewn modd hollol ddiamwys, sef yr her i ddangos eu bod o ddifrif dros ddyfodol yr iaith Gymraeg. Trwy wneud hyn gobeithiwn y bydd yn cyflawni’r addewidion a wnaed yng nghytundeb Cymru’n Un o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg gwerth yr enw a sicrhau mesur iaith newydd a fydd yn un cynhwysfawr ac effeithiol. Yn dilyn y siom a gafwyd yn achos yr addewid i sefydlu papur dyddiol, mae cryn bryder na wireddir yr addewidion yma. Mae yna nifer o feysydd eraill sydd angen sylw pellach yn ogystal os yw’r Llywodraeth o ddifrif am weld parhad yr iaith Gymraeg."

iwan-rhys.jpg
Iwan Rhys, Bardd y Gadair Steddfod yr Urdd '08 yn arwyddo'r mur.

"Rydym yn hynod falch o allu croesawu y ffigyrau o fywyd gwleidyddol a diwylliannol Cymru i arwyddo’r mur deddf iaith. Bellach gorchuddiwyd y mur gan lofnodion pobl sydd yn cefnogi ein galwad ni ar i Lywodraeth y Cynulliad gyflwyno deddfwriaeth effeithiol ym maes y Gymraeg, gan gynnwys statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, Comisiynydd dros yr Iaith Gymraeg, a hawliau i bobl Cymru weld, clywed a defnyddio’r iaith wrth ymwneud a phob agwedd ar fywyd. Y cam cyntaf yn hyn beth yw i gyflwyno Gorchymyn Cymhwyso Deddfwriaethol mor eang a phosib."

ifor-ap-glyn.jpg
Ifor ap Glyn, Bardd Plant Cymru yn arwyddo'r Mur Deddf Iaith.


Iaith: Dogfen yn 'her' - BBC Cymru'r Byd, Dydd Gwener, 30 Mai 2008

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
DIM UN ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli
11 Awst, 2008
Ymgyrch coleg Ffederal Cymraeg - Ymgyrch Pawb
6 Awst, 2008
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008
2 Awst, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, CAERNARFON
13 Awst, 2008
Rali Flynyddol, Y Rhybudd Olaf, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Cyfarfod Cyffredinol, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig