tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Torri ar draws Cyfarfod Pwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGFe wnaeth dwsin o aelodau Cymdeithas yr Iaith dorri ar draws cyfarfod o Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Gwynedd mewn protest yn erbyn penderfyniad i osod gorchwyl i weithgor newydd o lunio rhestrau o ysgolion i'w cau.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg:

"Mae'r Gymdeithas yn cefnogi bod gweithgor wedi'i sefydlu i lunio polisi newydd ar gyfer ysgolion cynradd y sir, ond nid lle gweithgor yn swyddfeydd y Cyngor yw enwi pa ysgolion y dylid eu cau. Byddwn yn ceisio cael cyfarfod y Cyngor llawn ar 19eg Mehefin i newid y penderfyniad hwn."

Paentio slogan yn nhref Caernarfon

Heddiw (Dydd Iau 5ed o Fehefin) yn ystod oriau mân y bore, aeth aelodau o Ranbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg allan i baentio slogan 'Cadwn Ein Hysgolion' ar wal yng nghanol tref Caernarfon.

Roedd y weithred yn anfon neges ddiffuant i Bwyllgor Craffu Addysg Gwynedd, sy'n cyfarfod am 2 y prynhawn, ac yn adlewyrchu gwrthwynebiad eang trigolion Gwynedd i gynllun ad-drefnu addysg y Cyngor.

Yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol 2008 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe gyhoeddwyd bod angen i aelodau a chefnogwyr y mudiad fynd allan i baentio sloganau gwleidyddol ar hyd a lled Cymru.

Yn ôl Dewi Snelson, Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn:

"Braf iawn ydi gweld aelodau ifanc y Rhanbarth yn dangos arweiniad, mi ddylai holl aelodau'r Gymdeithas ar draws y Gymru sydd dan ormes fynd allan a phaentio sloganau."

Ychwanegodd Ffred Ffransis, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Galwn ar y Pwyllgor Craffu i ddiddymu'r cynllun ad-drefnu ysgolion yn hytrach na ei ddiwygio. Rhaid ei rhoi o'r neilltu er mwyn ail sefydlu ymddiriedaeth a thrafod ffordd ymlaen i ysgolion pentrefol Gwynedd."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig