tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Arestio 4 yng Nghaernarfon – Gweithredu yn erbyn Superdrug a Boots

Ble mae'r Gymraeg?Cafodd 4 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, gan gynnwys Trefnydd Rhanbarth y Gogledd - Osian Jones, a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith - Steffan Cravos, eu harestio wrth weithredu yn uniongyrchol yn erbyn Boots a Superdrug yng Nghaernarfon neithiwr. Codwyd sticeri a phosteri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd a phaentiwyd sloganau ar ganghennau o Boots a Superdrug ym Mangor, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon.

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach 'Gweddnewid y Sector Breifat' a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf, yn galw ar gwmnïau mawr yn y sector breifat i fabwysiadu polisïau dwyieithog cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu fel cyrff cwbl ddwyieithog. Mae'r grŵp pwyso yn bygwth rhagor o weithredu yn erbyn Boots A Superdrug os na welir newidiadau cadarnhaol yn eu polisi iaith. Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."

boots-bangor1.jpg

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."

Boots a Superdrug yw targedau Cymdeithas yr Iaith yn ystod Mis Mai a Mehefin eleni. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol gwmnïau cadwyn amlwg eraill dros y flwyddyn nesaf er mwyn pwysleisio'r angen am ddeddf iaith newydd.

boots-bangor.jpg

Targedau Ymgyrch Gweddnewid y Sector Breifat:

Mai/Mehefin '08: Boots/Superdrug
Gorffennaf/Awst ’08: Woolworths/W H Smiths
Medi/Hydref ’08: Abbey/Co-op Bank
Tachwedd/Rhagfyr ’08: Orange/Vodafone

Pwyswch yma i gymryd rhan yn yr ymgyrch!

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig