tafod.jpg hafan cymdeithas.com
deiseb.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Nid lle gweithgor o'r Cyngor yw argymell cau ysgolion unigol

baner-protestcaernarfon-190.jpg Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bawb sy'n rhydd i deithio i ddod i Gaernarfon am 1pm Iau 19eg Mehefin o flaen cyfarfod allweddol o Gyngor Sir Gwynedd. Bydd y Cyngor yn ystyried cynnig i sefydlu gweithgor i lunio polisi ad-drefnu newydd. Yn ôl y Pwyllgor Craffu Addysg, rhan o swyddogaeth y gweithgor hwnnw fydd "llunio rhestr o ysgolion i'w cau".

Mae'n bosibl y bydd gwelliannau i newid yr union eiriad, ond egwyddor sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw nad lle unrhyw weithgor canolog o'r cyngor yw gwneud argymhellion am ba ysgolion y dylid eu cau. Gall gweithgor canolog astudio adroddiadau, gymryd tystiolaeth a hyd yn oed lunio criteria am hyfywedd ysgolion. Ond mater i'w drafod yn lleol gydag ysgolion a chymunedau yw argymhellion am dynged ysgolion unigol a'u perthynas a'i gilydd.

Dywedodd Osian Jones (trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd):

"Mae pwysau rhieni, llywodraethwyr ac eraill wedi cael effaith mawr hyd yma ac wedi gorfodi'r Cyngor yn ymarferol i dynnu'n ol y Cynllun gwreiddiol. Rhaid sicrhau'n awr nad oes ymdrech arall i benderfynu o'r canol dynged ein hysgolion. Mae angen nid yn unig Gynllun newydd ond hefyd agwedd newydd o drafod yn agored gyda phobl leol yn lle ffurfio cynlluniau'n ganolog."

"Mae un cyfle olaf gan y Cyngor i gael y penderfyniad yn iawn a chychwyn cyfnod newydd o gydweithio efo ysgolion a chymunedau lleol."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach
18 Mawrth, 2010
Llywodraeth yn 'camarwain y cyhoedd' ar y mesur iaith, cwyn swyddogol Cymdeithas
10 Mawrth, 2010
Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth
8 Mawrth, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Taith Coleg Ffederal - Caerdydd
16 Mawrth, 2010
Dyfodol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor?
17 Mawrth, 2010
Taith Coleg Ffederal - Aberystwyth
18 Mawrth, 2010
Ffair Lyfrau Cell Caerdydd
21 , 2010
Noson Lansio cyfrol chwyldroadol newydd - GAIR I GELL
1 Ebrill, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig