tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Boots Ceredigion a Sir Gâr 93-95% Saesneg yn unig!

GweithredBootsLlambed.jpgFe baentiwyd sloganau ar ganghennau Boots yn Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan neithiwr yn dweud "95% Uniaith Saesneg" ac fe godwyd sticeri yn galw am Ddeddf Iaith Newydd ar ganghennau 'Boots' yn Aberystwyth, Castell Newydd Emlyn, Caerfyrddin, a Llanelli ac ar gangen Superdrug yn Aberystwyth a Chaerfyrddin.

Mae hyn yn dilyn arolwg gan aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn dangos fod canghennau o'r siop 'Boots' yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin yn cynnig gwasanaeth Gymraeg hollol ddiffygiol i bobl y siroedd gyda chanran o ddefnydd uniaith Saesneg y canghennau yn amrywio o 93% i 95%. Cafodd arolygon tebyg eu gwneud yn Superdrug hefyd.

Dywedodd Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed - Cymdeithas yr Iaith:

"Mae dros 50% o bobl Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn siarad Cymraeg, mae cwmni Boots yn dangos diffyg parch llwyr i'r Gymraeg yn yr ardaloedd yma gan gynnig rhwng 5 a 8% yn unig o wasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid."

Mae hyn yn rhan o ymgyrch ehangach 'Gweddnewid y Sector Breifat' a fydd yn parhau dros y misoedd nesaf, yn galw ar gwmnïau mawr yn y sector breifat i fabwysiadu polisïau dwyieithog cynhwysfawr ac effeithiol er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu fel cyrff cwbl ddwyieithog. Mae'r Cymdeithas yr Iaith yn bygwth rhagor o weithredu yn erbyn Boots A Superdrug os na welir newidiadau cadarnhaol yn eu polisi iaith. Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

GweithredBootsAberaeron.jpg

"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i'w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."

Boots a Superdrug yw targedau Cymdeithas yr Iaith yn ystod Mis Mai a Mehefin eleni. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol gwmnïau cadwyn amlwg eraill dros y flwyddyn nesaf er mwyn pwysleisio'r angen am ddeddf iaith newydd.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
DIM UN ty fforddiadwy ym Mhont-Tyweli
11 Awst, 2008
Ymgyrch coleg Ffederal Cymraeg - Ymgyrch Pawb
6 Awst, 2008
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Caerdydd 2008
2 Awst, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Achos Llys, Osian Jones a Steffan Cravos, CAERNARFON
13 Awst, 2008
Rali Flynyddol, Y Rhybudd Olaf, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Cyfarfod Cyffredinol, ABERYSTWYTH
25 Hydref, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig