Brwydr y Bandiau 2008

Eleni bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg unwaith eto yn cynnal Brwydr y Bandiau.
Bydd y band buddugol yn derbyn sesiwn C2, ymddangosiad ar Bandit a slot yn ein gigs yn yr Eisteddfod.
Er mai bandiau ifanc sydd yn draddodiadol wedi cystadlu mae’r gystadleuaeth yn agored i bob oedran. Yr unig amodau yw fod y band yn gallu cynnal set 15 munud o ganeuon Cymraeg gwreiddiol ac nad ydynt eisoes wedi recordio unrhyw gynnyrch. Nid oes angen danfon demo.
Felly a chi yw'r Derwyddon Dr. Gonzo nesaf?
Os i chi eisiau cystadlu, cysylltwch â Steffan Cravos cyn Mehefin
21ain i gofrestru - steffanATcymdeithasDOTorg
Mwy yn yr un categori(au): Adloniant
.
|