tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Achos yn erbyn cyn-gadeirydd a threfnydd y gogledd

Ble mae'r Gymraeg?Yn dilyn gweithredu uniongyrchol yn erbyn cwmnïau Boots a Superdrug fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wedd-newid y sector breifat mi fydd cyn-gadeirydd y Gymdeithas, Steffan Cravos a trefnydd y gogledd Osian Jones gerbron llys ynadon Caernarfon am 9:15 ar Orffennaf 16 eg.

Peintiwyd sloganau ar ganghennau y ddau gwmni yn Llangefni, Caernarfon a Bangor yn gofyn “Ble mae'r Gymraeg?”

Meddai Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae angen i Boots a Superdrug weld fod yn rhaid parchu'r Iaith Gymraeg. Gan nad yw'r Llywodraeth, hyd yma, wedi cymryd camau i sicrhau hawliau ieithyddol i bobl Cymru yn y sector breifat mae angen atgoffa'r cwmnïoedd yma o'u cyfrifoldeb tuag y cwsmeriaid sydd yn sicrhau eu helw blynyddol enfawr."

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Boots a Superdrug, yn ogystal â chwmnïoedd eraill sy'n gweithredu yng Nghymru, i sicrhau bod eu harwyddion parhaol, arwyddion tymhorol, cyhoeddiadau uchelseinydd a phecynnau eu nwyddau yn ddwyieithog, a'u bod yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr er mwyn creu staff dwyieithog."

Ychwanegodd Osian Jones, trefnydd y gogledd:

"Dyma ddangos bod gan gwmniau mawr fwy o hawliau na chymunedau Cymru y dyddiau yma. Gwelwn dro ar ôl tro y cwmnïau yma yn sefydlu mewn cymunedau heb ddangos ddim parch o gwbwl i'r cymunedau hynny."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig