|
|
|
Ymateb i adroddiad ad-drefnu addysg Cyngor Sir Ceredigion
Fe fydd Cabinet Cyngor Ceredigion yn trafod yfory (dydd Mawrth 8/7) y ddogfen 'Dyfodol Addysg yng Ngheredigion'.
Dyma ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ddogfen:
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu parodrwydd Ceredigion i drafod y
strategaeth sirol ar ysgolion gwledig gyda phawb sydd â diddordeb. Mae
hyn yn hollol wahanol i agwedd biwrocrataidd Cyngor Sir Gaerfyrddin
sydd wedi gwneud rhestr o ysgolion targed i'w cau ac sy'n barod i
ymgynghori'n unig pan fod rheidrwydd cyfreithiol arnynt i wneud hynny
yn y broses statudol. Croesawn hefyd ddatganiad Cyngor Ceredigion yn
eu dogfen bolisi 'Buddsoddi yn ein pobl ifainc' fod yr "Awdurdod yn
ymroddedig ... i gadw ysgolion bach yn eu cymunedau pryd bynnag y bo
modd". Er mwyn cynnwys cymunedau lleol mewn modd cadarnhaol mewn
trafodaethau creadigol am ddyfodol addysg yn eu hardal, mae'n bwysig
nad ydyw'n cael ei weld fel ymarfer negyddol i gau ysgol yn unig.
Rhaid i'r ymgynghori fod yn gadarnhaol gan ymchwilio i'r holl
botensial newydd cyffrous i ddefnyddio'r ysgolion a'u hadnoddau a'u
hasedau i adfywio cymunedau mewn proses o resymoli cadarnhaol. Nodwn
fod disgwyl dau adroddiad pwysig yn hwyrach eleni (*) oddi wrth y
Cynulliad Cenedlaethol fydd yn gosod opsiynau newydd ar gyfer ysgolion
pentrefol a bydd rhaid ystyried y rhain."
* Bydd Adran Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi'n hwyrach y
mis hwn ganllawiau drafft (ar gyfer ymgynghori) ar sut y gall ysgolion
bach gydweithio i ffurfio unedau addysgol hyfyw, a daw'r system newydd
i weithrediad yn gynnar yn 2009. Bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y
Cynulliad yn cyhoeddi yn yr hydref adroddiad ar ddyfodol ysgolion
pentrefol, a bydd y Gweinidog yn ymateb i hyn hefyd erbyn diwedd y
flwyddyn.
Mwy yn yr un categori(au): Addysg
.
|
|