tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Her i Swyddogion Addysg Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio pwysau newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar Ysgol Carreg Hirfaen, ffederasiwn 3-safle. Trwy newid y fformiwla gyllido i ragfarnu'n erbyn ysgolion bach, a thrwy symud y lwfans ar gyfer cynnal ffederasiwn, mae'r Cyngor yn ceisio gorfodi llywodraethwyr i gau dwy o'r safleoedd ym mhentrefi bach Llanycrwys a Ffarmers. Derbyniodd rhieni rybudd o 3 wythnos y gall eu safleoedd ysgol gau ar ddiwedd y tymor.

Meddai Trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd, "dyma fodel o
ysgol ffedereiddiedig sy wedi cynnal presenoldeb mewn nifer o gymunedau
bach Cymraeg. Bu'r ysgol mor lwyddiannus yn addysgol fel bod nifer y
disgyblion wedi cynyddu'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf. Mae'r
Cyngor yn ceisio defnyddio'i reolaeth ar y Cwdyn Arian i orfodi ei
bolisi dogmataidd o Ysgolion Ardal canolog ym mhob man, ac yn pwyso ar y
llywodraethwyr i wneud ei waith brwnt drostynt. Cymerodd y Cyngor
benderfyniad unochrog i newid y fformiwla gyllido gan fynnu nad oedd
raid iddo ymgynghori am newid o'r fath.

Ychwanegodd Ms Clwyd "Yn yr achos hwn, dyw'r Cyngor ddim yn gallu
defnyddio dadl o niferoedd yn disgyn na hyd yn oed o gost. Mae'r Cyngor
yn barod i dalu tua £200,000 am Gaban ychwanegol yng Nghwm-an ar gyfer yr
holl blant ychwanegol o'r ddwy gymuned arall, ac yn barod i anwybyddu
pob ystyriaeth amgylcheddol trwy dalu degau o filoedd o bunnoedd i
gludo'r plant bach ol a mlaen bob dydd. Petai'r Cyngor yn syml yn rhoi'r
arian hwn yn ol i'r llywodraethwyr, gallen nhw ddal i drefnu ysgol
lwyddiannus yn y 3 safle. Y gwir reswm am hyn oll yw awydd y Cyngor i
werthu adeiladau'r ddwy ysgol er mwyn codi arian am eu cynlluniau
drudfawr o godi Ysgolion Ardal newydd canolog, heb boeni dim am yr
effaith ar addysg y plant ac ar y cymunedau. Dylai'r Swyddogion Addysg
newid eu gwaith i fod yn Werthwyr Eiddo !"

Bydd rhai aelodau o'r Gymdeithas yn gofyn i lywodraethwyr (o flaen
cyfarfod heno rhyngddynt a rhieni) i beidio a chydweithio a'r cyngor.
Mae rhieni hefyd yn trefnu Cyfarfod Protest agored yn Ffarmers nos
fory am 8pm.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig