tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Mae pawb yn rhan-ddeiliaid mewn Coleg Ffederal Cymraeg

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu datganiad Jane Hutt heddiw fod y Llywodraeth yn dal i anelu at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn hytrach na bodloni ar ddiwygiadau ar y drefn bresennol. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas wedi rhybuddio fod angen symud lawer ynghynt ac na ddylid cyfyngu’r trafod i’r sefydliadau addysgol.

Meddai Sioned Haf, swyddog ymgyrchoedd y Gymdeithas:

"Rhaid i’r llywodraeth symud lawer yn gynt os am ddal ar y cyfle hanesyddol hwn i sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac anrhydeddu’r addewid yn rhaglen 'Cymru’n Un'. Hyd yma, dyw’r llywodraeth ddim hyd yn oed wedi cydnabod yr egwyddorion sylfaenol – fod angen statws annibynnol a siarter i’r coleg, llif arian annibynnol a’i gofrestr ei hunan o fyfyrwyr. Ni bu’r cynnydd angenrheidiol i ddatblygu’r cynllun o fewn y flwyddyn gyntaf."

Ychwanegodd Ms Haf:

"Nawr mae’r Llywodraeth o’r diwedd yn dechrau son am ddatblygu’r model trwy sefydlu 'Grwp Llywio’r Coleg Ffederal' a chynnal cynhadledd i 'ran-ddeiliaid'. Neges Cymdeithas yr Iaith yw ein bod i gyd yn rhan-ddeiliaid yn y ddelfryd o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg ac ni ddylid ceisio cyfyngu’r weledigaeth i Sefydliadau Addysg Uwch Cymru sydd yn eu hanfod yn geidwadol."

Fel arwydd o hyn, bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu Sesiwn Gyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol (*) yng Nghaerdydd tan y deitl 'Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!'. Am y prynhawn, byddwn yn gweithredu fel Grwp Llywio ac yn gwahodd pawb i ddod i gyfrannu eu syniadau am Goleg Ffederal Cymraeg. Caiff y cyfan ei gofnodi a’i drosglwyddo i’r Gynhadledd.

“Fel hyn, byddwn yn agor drysau’r Gynhadledd i bobl Cymru”, meddai Sioned Haf.

(*) 3pm, Dydd Mercher, 6ed o Awst
Cyfarfod Cyhoeddus: Coleg Ffederal Cymraeg – Ymgyrch Pawb!

Pabell y Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd
Hywel Griffiths, Menna Machreth, Einir Young, Ieuan Wyn

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig