tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Mynd a'r Frwydr dros Bapur Dyddiol i'r Sioe

Papur Dyddiol CymraegMi fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cyflwyno tystiolaeth ger bron Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sioe Llanelwedd heddiw. Lansiwyd y ddeiseb wedi datganiad y cyn Weinidog Treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, yn mis Chwefror eleni, mai ond £200,000 y flwyddyn a fyddai’n yn mynd tuag at ddatblygu'r wasg Gymraeg.

Meddai Hywel Griffiths, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Rydym am gyflwyno tystiolaeth bydd yn ail-ategu bod y llywodraeth wedi mynd yn groes i'w hymrwymiad i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Gwnaed addewid clir a diamwys yn nogfen Cymru’n Un i sefydlu papur dyddiol cyfrwng Cymraeg. Byddai hyn wedi ychwanegu’n sylweddol at hunaniaeth a hunan-hyder Cymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd, ac wedi sbarduno niferoedd mawr o bol i ddysgu’r iaith."

"Mae’r pecyn a gyhoeddwyd yn becyn sydd wedi ei anelu at y bobl ffodus hynny sydd yn medru edrych ar y we yn y gwaith neu adref, ac yn gwrthod gwasanaeth newyddion i’w ddarllen i’r rheiny nad ydynt yn medru cael mynediad at y we am amrywiol resymau. Mae ond angen edrych i'r cyfandir i sylweddoli
bod Cymru bell tu hol hi."

Mewn pythefnos wedi cyhoeddiad y cyn-weinidog treftadaeth, Rhodri Glyn Thomas mai ond £200,000 y flwyddyn bydd y wasg Gymraeg yn ei chael, derbyniwyd dros mil o enwau i'r ddeiseb. Yn ôl Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:

"Roedd cyhoeddi'r fath swm yn ergyd farwol i’r uchelgais o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Roedd hi'n gyhoeddiad a wnaeth adlewyrchu diffyg ymrwymiad y llywodraeth i gymryd y Gymraeg o ddifri. Bu'r syniad o bapur newydd dyddiol Cymraeg yn destun cynnwrf ac yn gam a oedd yn dangos gweledigaeth i normaleiddio'r Gymraeg. Ond ymddengys unwaith yn rhagor, bod yr hyder i fod yn ddiwylliannol gyffrous trwy gyfrwng y Gymraeg wedi eu chwalu gan Llywodraeth y Cynulliad. Gobeithiwn yn fawr y bydd y Pwyllgor Deisebau yn mynd a’r maen i’r wal o hyn allan."

Mwy yn yr un categori(au): Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig