tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ymateb i'r cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i adroddiad gyhoeddwyd ar y cyd yn y Sioe Amaethyddol gan Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Dywedodd Dafydd Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

"Mae'n dda gennym weld cydweithio rhwng Cartrefi Cymunedol Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg o ran cynnig darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i denantiaid cymdeithasau tai, er nad oes llawer o fanylion wedi eu cyhoeddi ganddynt ar sut maent yn bwriadu diogelu a datblygu’r Gymraeg fel iaith gymunedol yng Nghymru, sef ail elfen y cydweithio."

"A rhaid pwysleisio mai'r hyn sy'n bwysig os ydym am weld parhad cymunedau Cymraeg a Chymreig yw sicrhau fod pobol leol yn gallu cael mynediad i'r cartrefi o fewn cymunedau. Nid yw paratoi mwy o dai ar gyrion pentrefi yn ateb. Rhaid felly wneud defnydd o'r stoc dai sy'n bodoli eisoes. Mae'n bwysig hefyd fod pobol leol yn cael blaenoriaeth yn y farchnad dai bresennol."

"Cred Cymdeithas yr iaith mai tipyn o jôc yw'r holl sôn sydd heddiw am 'dai fforddiadwy'. Yr hyn sy'n digwydd yw fod datblygwyr yn cael caniatâd i godi nifer mawr o dai drud a di-angen ar yr amod fod ychydig o dai 'fforddiadwy' yn eu plith. Fel arfer ychydig iawn o drigolion lleol all fforddio’r tai 'fforddiadwy' hyn."

"Dyna pam fod y Gymdeithas wedi dod i gredu mai rhan o'r ateb i sicrhau cartrefi i bobl leol yn ein cymunedau yw cynnydd mawr yn y nifer o unedau i’w rhentu. Felly mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld symud tuag at sefydlu 'Hawl i Rentu'i bobl leol yn lle hen bolisi Thatcher o 'Hawl i Brynu'. Dyna fydd thema protest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg tu allan i Uned Llywodraeth y Cynulliad am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8 a chanolbwynt ein hymgyrchu yn y maes hwn o hyn ymlaen".

1pm, Dydd Gwener, 8fed o Awst
Protest: Hawl i Rentu!

Uned Cymdeithas yr Iaith
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008
Hywel Griffiths, Iestyn ap Rhobert.

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig