tafod.jpg hafan cymdeithas.com
deiseb.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ymgyrch coleg Ffederal Cymraeg - Ymgyrch Pawb

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd Cymdeithas yr iaith yn gweithredu ar faes yr Eisteddfod er mwyn agor i'r bobl yr ymgyrch a'r ddadl am Goleg Ffederal Cymraeg. Mae'r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, wedi cyhoeddi sefydlu Gweithgor - i'w gadeirio gan Robin Williams - er mwyn astudio gwahanol fodelau ar gyfer Coleg Ffederal Cymraeg ac felly wireddu un o addewidion sylfaenol dogfen "Cymru'n Un" Llywodraeth y Cynulliad.

Sylwodd llefarydd y Gymdeithas ar yr ymgyrch, Rhys Llwyd:

"Mae'r gweithgor i'w gadeirio gan gadeirydd Grwp Sector H.E.W. (Addysg Uwch Cymru) ac y mae'n debyg y bydd mwyafrif mawr yr aelodau yn gynrychiolwyr yr un Sefydliadau Addysg Uwch sydd wedi bod wrthi'n amddiffyn eu buddiannau eu hunain ac yn ceisio tanseilio unrhyw symudiad tuag at sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg annibynnol. Dyna baham y gwnaed cyn lleied o gynnydd yn ystod blwyddyn gyntaf Llywodraeth y Glymblaid yn y maes hwn. Erbyn hyn, rhaid cyflymu'r broses os am sefydlu Coleg Cymraeg cyn diwedd tymor y llywodraeth a chadw at yr addewid."

Eglurodd Mr Llwyd:

"Ein nod yw atal y Sefydliad rhag rhwystro symudiadau trwy ein bod yn agor y ddadl a'r ymgyrch i bawb gan y bydd sefydlu Coleg Cymraeg o ddiddordeb ac o fudd i'r holl wlad. Byddwn felly'n troi ein Cyfarfod Cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod (3pm Merch 6/8) yn gyfarfod Gweithgor Agored gan wahodd pawb i roi eu syniadau yngylch sefydlu Coleg Cymraeg Gwahoddir Eisteddfodwyr hefyd i gyhoeddi eu syniadau yn uned y Gymdeithas ar y maes, ac fe anfonir yr holl dystiolaeth at y Gweinidog fel na bydd raid iddi ddibynnu'n unig ar syniadau ceidwadol y Sefydliad Addysg."

* MANYLION CYFARFOD - 3pm Mercher 6ed Awst - Pabell y Cymdeithasau, Maes yr Eisteddfod Gwahoddir pawb at Fforwm Agored "COLEG FFEDERAL CYMRAEG - YMGYRCH PAWB" Dewch i glywed gan gynrychiolwyr Cymdeithas yr Iaith, Ymgyrch Coleg Ffederal, myfyrwyr ac academyddion ..ac i roi eich barn chi.

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Llywodraeth yn 'camarwain y cyhoedd' ar y mesur iaith, cwyn swyddogol Cymdeithas
10 Mawrth, 2010
Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth
8 Mawrth, 2010
Rhieni yn cyflwyno deisebau i Gyngor Ceredigion
3 Mawrth, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Taith Coleg Ffederal - Caerdydd
16 Mawrth, 2010
Dyfodol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor?
17 , 2010
Taith Coleg Ffederal - Aberystwyth
18 Mawrth, 2010
Noson Lansio cyfrol chwyldroadol newydd - GAIR I GELL
1 Ebrill, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig