Daliwch ar y cyfle i arwain y ffordd - Neges wrth Lywodraethwyr am ddyfodol Ysgolion pentref
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar lywodraethwyr i gymryd yr arweiniad o ran dyfodol ein hysgolion pentref trwy ddefnyddio’n llawn rheoliadau drafft newydd a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan Lywodraeth y Cynulliad. Mae’r rheoliadau’n amlinellu sut y gall llywodraethwyr gyflwyno argymhellion i sefydlu ffederasiynau o fath cwbl newydd o ysgolion cyfagos a drefnid gan Fwrdd Llywodraethol unedig ond bod yr ysgolion unigol yn cadw’u hannibyniaeth.
Mae’r rheoliadau drafft newydd – a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghori tan Hyd 24ain ac sydd i ddod i rym ar ddechrau 2009 – yn caniatau i Lywodraethwyr yn hytrach nac Awdurdodau Lleol i ffurfio polisi ac i drefnu ymgynghori lleol o ran dyfodol addysg yn eu hardal. Bydd llywodraethwyr ysgolion cyfagos yn gallu ffurfio cynllun i sefydlu ffederasiwn i’w reoli gan Fwrdd Llywodraethol unedig. Byddai’r llywodraethwyr yn dal yn derbyn cyllidebau ar gyfer ysgolion unigol ond yn cronni’r holl adnoddau ariannol a dynol yn y modd gorau ar gyfer y ffederasiwn cyfan. Gallai llywodraethwyr benodi un pennaeth neu arweinyddiaeth ar y cyd ar gyfer y ffederasiwn.
Mae’r rheoliadau drafft yn pwysleisio fod y cysyniad yn hollol wahanol i’r tair ysgol aml-safle neu “ffederal” sy eisoes yn bodoli yng Nghymru ac sy’n cael eu rheoli fel ysgolion unigol. Bu pryder am y rhain gan fod llywodraethwyr yn gallu cau safle heb unrhyw broses statudol pan fydd Awdurdod Lleol yn gwasgu ar eu cyllideb fel ag sy’n digwydd ar hyn o bryd yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred ffransis:
“Byddai’r ffederasiynau newydd hyn yn cynnal annibyniaeth a hawliau statudol yr ysgolion unigol o fewn eu cymunedau wrth greu uned addysgol ehangach. Rydym yn falch fod y rheoliadau drafft yn dweud yn benodol mai eu hamcan yw helpu ysgolion bach a gwledig. Mae pob math o opsiynau gan y gall unrhyw nifer o ysgolion ffurfio ffederasiwn, gall ysgolion cynradd ffedereiddio gydag ysgol uwchradd i ffurfio uned gyflawn mewn ardal wledig ac nid yw na ffiniau siroedd na statws gwirfoddol yn rhwystr i ffurfio ffederasiwn."
“Yn bwysicaf oll gall y llywodraethwyr yn awr gymryd yr arweiniad oddi fewn i’w cymunedau yn hytrach na disgwyl am gynlluniau gan fiwrocratiaid Neuadd y Sir. Galwn ar lywodraethwyr yn ein holl gymunedau pentrefol i gymryd yr arweiniad yn hytrach na disgwyl i’r biwrocratiaid sirol ffurfio cynlluniau negyddol i gau ysgolion. Bydd pob math ar opsiynau - yn cynnwys cynnal y status quo - yn gweddu a gwahanol gymunedau, ac mae angen cymryd y penderfyniadau’n lleol."
"Galwn ar lywodraethwyr i weithredu’n awr. Mae’r rheoliadau yn dal ar ffurf drafft ond os bydd llywodraethwyr yn trafod posibiliadau’r hydref hwn fe allent fod yn barod gyda chynlluniau pan ddaw’r rheoliadau i rym yn dechrau 2009. Dyma ddiwedd y cyfnod o eistedd yn ôl a disgwyl i’r biwrocratiaid ffurfio cynlluniau ar gyfer ein hysgolion a’n cymunedau. Gall y llywodraethwyr eu hunain gymryd yr arweiniad yn awr a thrafod gydag ysgolion eraill y ffordd orau ymlaen ar gyfer eu hardal nhw. Yn Sir Gar, bydd angen gwneud hyn mewn gwrthwynebiad i ymosodiad gan y Cyngor Sir, lle bydd cynghorau eraill - fel Ceredigion, Gwynedd, Môn a Chonwy - yn barotach i gydweithio."
"Yn ein hymateb i’r rheoliadau drafft, bydd Cymdeithas yr iaith yn pwyso ar y llywodraeth i gyflwyno lwfans ar gyfer costau ffedereiddio i’r dull cyllido fel na fydd cynghorau maleisus fel Caerfyrddin yn allu gwasgu mor rhwydd ar gyllidebau ysgolion bach."
Gellir cael hyd i’r rheoliadau drafft yma.
Mwy yn yr un categori(au): Addysg
| Newyddion
.
|