tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Dyfodol Newydd ar gyfer Ysgolion Pentre'

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMewn Cynhadledd i’r Wasg y bore’ma, mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at y posibiliadau cyffrous newydd ar gyfer ysgolion pentrefol Cymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi annog cyrff llywodraethol i ymateb i bapur ymgynghorol newydd Llywodraeth y Cynulliad (Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion) sy’n dangos sut y gall ysgolion pentre cyfagos gydweithio ar batrwm newydd, tra’n cadw eu hannibyniaeth, i greu unedau addysgol cryf fel alternatif i gau ysgolion. Gellir creu ffederasiwn o Ysgol Uwchradd a llawer o’r ysgolion cynradd pentrefol sy’n ei bwydo.

Cynhadledd-Wasg-1-bach.jpg

Mae nifer o Awdurdodau Lleol – fel Gwynedd a Mon – wedi ffafrio datblygiadau o’r fath ac yn debygol o’u cynnig fel opsiynau. Ar y llaw arall, ymddengys Cyngor Sir Caerfyrddin yn benderfynol o fwrw mlaen gyda chynllun “moderneiddio” o gau degau o ysgolion. Yn y Gynhadledd, heriodd y Gymdeithas Gyngor Sir Caerfyrddin i ddweud yn gyhoeddus a oedd yn bwriadu mynd ymlaen gyda’i rhaglen o gau degau ysgolion ar waethaf y posibiliadau newydd.

Meddai llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis, "Mae hawl gyda ni i wybod a yw Cyngor fel Caerfyrddin yn bwriadu anwybyddu’n llwyr yr holl bosibiliadau cadarnhaol newydd hyn a mynnu mynd ymlaen gyda’i bolisi dogmataidd o gau ysgolion. Fe hoffem ni gredu ein bod wedi ennill y ddadl addysgol a chymdeithasol dros ysgolion pentrefol Cymraeg. Ond cydnabyddwn fod hefyd resymau ymarferol am y newid pwyslais o blaid ysgolion pentre. Mae’r wasgfa ar gredyd yn golygu nad oes cyllid ar gael ar gyfer adeiladu ysgolion canolog newydd. Ac mae nifer o ysgolion wedi gwneud safiad dewr yn erbyn cynlluniau cau, a does gan yr Awdurdodau ddim yr adnoddau gweinyddol i drin degau o apeliadau’n erbyn penderfyniadau i gau ysgolion."

Cynhadledd-Wasg-2-bach.jpg

"Mae’r llanw wedi troi.Yr unig ffordd y bydd nifer sylweddol o ysgolion yn cau yn y dyfodol yw os bydd y cymunedau lleol yn digalonni wedi blynyddoedd o bwysau ac ildio. Pa fath ar Gyngor sy’n seilio’i strategaeth ar ddigalonni a churo ei bobl ei hunan ? Yn lle disgwyl cnoc ar y drws gan y Cyngor, dylai llywodraethwyr ysgolion gymryd y mater i’w dwylo eu hunain gan gysylltu ag ysgolion cyfagos a llunio eu cynlluniau eu hunain ar gyfer dyfodol addysg yn eu hardal. Am y tro cyntaf, byddai’r rheoliadau newydd hyn yn caniatau i Lywodraethwyr arwain y ffordd."

Cyhoeddwyd y Rheoliadau drafft newydd hyn gan Lywodraeth y Cynulliad yn nechrau Medi ar gyfer ymgynghori tan Hydref 24ain: http://new.wales.gov.uk/consultation/dells/2008/fedofmaintainedschools/fedofmaintainedschoolse.pdf?lang=cy

Hefyd yn y Gynhadledd i’r Wasg bu arweinydd yr Wrthblaid ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Peter Hughes-Griffiths, yn galw am osod moratoriwm argau ysgolion yn y sir, er mwyn cael cyfle i ymgynghori'n llawn ar yr argymhelliadau newydd.

www.walesonline.co.uk

news.bbc.co.uk/welsh/

www.thisissouthwales.co.uk

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig