tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

A fydd datblygwyr yn llwyddo i dwyllo Cyngor Sir Gar?

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder y bydd datblygwyr yn llwyddo i wthio trwodd y datblygiad tai dadleuol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio, Cyngor Sir Gaerfyrddin fory, yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin am 10am, a fydd yn tanseilio cymuned Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Gwrthodwyd y datblygiad o 50 o dai a gynigwiyd gan cwmni Eatonfield yn Rhagfyr 2007 gan y Cyngor Sir ar y sail y byddai datblygiad o'r fath yn tanseilio iaith y gymuned leol. Roedd y datblygiad o 50 o dai yn cynnwys 15 "token" o dai "fforddiadwy".

Mae'r cwmni yn awr wedi ail gyflwyno'r cais am ddatblygiad llai o 31 ty, 4 ystafell wely gan hepgor y tai "fforddiadwy", felly bydd pob un ty y tu hwnt i gyrraedd y gymuned leol. Ymgais yw hwn gan y cwmni i dwyllo cynghorwyr drwy honni fod caniatad cynllunio a roddwyd nol ym 1990 dal yn weithredol oherwydd iddynt gychwyn gwaith ar ffordd fynediad o fewn y cyfnod 5 mlynedd angenrheidiol. Mae pobl lleol yn gwrthod yr honiad yn llwyr a chant eu cynrhychioli gan lefarwyr yn y pwyllgor cynllunio fory.

Un o'r llefarwyr yn y cyfarfod bydd y Cynghorydd Cymuned lleol, Angharad Clwyd sydd hefyd yn drefnydd i Gymdeithas yr Iaith yn yr ardal. Dywedodd Angharad cyn y cyfarfod:

"Mae'n warthus fod y cwmni yn ceisio twyllo'r Cyngor drwy wneud honiad mor gyfeiliornus. Byddwn eto yn galw ar y Cyngor i wrthod y cais. Mae'r angen yn lleol am dai cymdeithasol ac mae Cymdeithas yn ymgyrchu dros hyn yn ein hymgyrch 'Hawl i Rentu'. Y peth lleiaf y gall y Cyngor ei wneud yw mynnu fod yna gynllun partneriaeth rhwng y datblygwyr a'r Cyngor , tebyg i'r cynllun "Camau Cyntaf" a fabwysiadwyd gan Gyngor Conwy. Golyga hyn y byddai tai yn cael eu cynnig i restr o bobl leol am 2/3 o bris y farchnad gyda'r Cyngor yn darparu'r gweddill. Byddai'r tai wedyn yn mynd yn ol i'r Cyngor pan fyddai'r bobl oedd wedi eu prynu am bris llai yn symud ymlaen."

http://www.sirgar.gov.uk/agendas/cym/PCYN20081009/REP03_04.HTM#P1239_75261

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig