tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y Llys

Steffan Cravos a Osian Jones yn y LlysBydd dau aelod amlwg o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Pwllheli am 10.30 bore dydd Gwener, Hydref 17. Cyhuddir Steffan Cravos, cyn- gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac Osian Jones, Trefnydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngogledd Cymru o ddifrod troseddol. Digwyddodd hyn ar ôl i'r ddau gael eu harestio (gyda dau aelod arall nad ydynt yn wynebu achos llys) am beintio sloganau ar waliau siopau Boots a Superdrug yng Nghaernarfon, Llangefni, Porthmadog a Chaernarfon. Roedd hyn fel rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith newydd fyddai yn meddu ar bwerau yn ymestyn i'r sector breifat.

Dywedodd Osian Jones ar ran y ddau ddiffinydd:

"Am ryw reswm bu llawer o oedi cyn i'r achos hwn ddod i'r llys, ond mae'n digwydd ar amser cwbwl dyngedfennol yn yr ymgyrch dros Fesur Iaith gan ein bod yn disgwyl yn eiddgar am gyhoeddiad ar y mater gan Lywodraeth y Cynulliad. Teimlwn ein bod eisoes wedi bod yn rhy amyneddgar ac mae'n arwyddocaol fod yr achos hwn yn digwydd wythnos cyn ein Rali Genedlaethol yn Aberystwyth gynhelir yng Nghanolfan Morlan am 2 o'r gloch dydd Sadwrn Hydref 25 am 2 o'r gloch. 'Mesur Iaith Cyflawn – Y Rhybudd Olaf[ yw teitl y rali honno ac mae'n arwydd clir a phendant fod amynedd Cymdeithas yr Iaith gyda llywodraeth y Cynulliad ar fin dod i ben."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig