tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith yn targedu Abbey Caerfyrddin ac Aberystwyth

Ble mae'r Gymraeg?Fe fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn picedi y tu fas i Banc Abbey yng Nghaerfyrddin ac yn Aberystwyth bore dydd Sadwrn y 18/10 am 11am. Cynhelir y picedi fel rhan o ymgyrch y Gymdeithas i atgoffa Llywodraeth y Cynulliad fod yn rhaid cynnwys y sector breifat o fewn unrhyw fesur iaith. Mae hyn yn digwydd mewn cyfnod tyngedfenol lle y disgwylir cyhoeddi LCO drafft yr iaith Gymraeg yn fuan.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn targedi 2 gwmni preifat bob 2 fis trwy gydol y flwyddyn gan ganolbwyntio ar gwmniau Abbey a Banc y Co-operative yn ystod mis Medi ac Hydref cyn mynd ymlaen at gwmniau ffon Orange a Vodafone ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr.

Tocenistiaeth yn unig yw darpariaeth cyfrwng Cymraeg banciau Abbey a Co-op, gyda'r ddarpariaeth bitw hwnnw'n aml yn israddol ac yn wallus. Yn dilyn danfon cwynion i'r 2 banc mae aelodau'r Gymdeithas wedi derbyn ymatebion oddi wrth y cwmnioedd gyda Abbey yn dweud eu bod yn bwriadu edrych i fewn i'r posibiliadau a Co-op yn dweud yn syml nad oes unrhwy gynlluniau ganddynt i ddarparu unrhyw wasanaethau Cymraeg pellach.

Dywed Bethan Williams, Cadeirydd grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:

"Rydym yn targedi y cwmnïau hynny sydd yn cymryd arian pobl Cymru, ond yn gwrthod cynnig gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw ar bobl Cymru i lunio llythyr o gwyn i'w ddanfon at y cwmniau yma ynglyn â'u polisi iaith diffygiol."

"Rydym yn galw ar y cwmniau yma i sicrhau bod y canlynol yn ddwyieithog: Arwyddion allanol a mewnol, taflenni hyrwyddol, gwefan a bancio ar-lein, Peiriannau twll yn y wal, cyfriflen dwyieithog i bawb yng Nghymru, eu bod yn cynnig gwasanaeth ffôn Cymraeg i gwsmeriaid ac eu bod yn sefydlu cynlluniau hyfforddi staff i'w galluogi i weithio a chynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg."

Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:

"Fe fyddwn yn dosbarthu taflenni tu fas i Abbey yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth bore Sadwrn gan ofyn i'w cwsmeriaid i lythyru'r cwmni er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o'r galw yng Nghymru am wasanaethau dwyieithog. Rydym wedi derbyn ymateb oddi wrth Abbey yn dweud eu bod yn edrych i fewn i'r posibiliadau o ddarparu fwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae'n holl bwysig ein bod yn parhau i bwyso ar y cwmni i ddangos iddynt difrifoldeb y sefyllfa. Yn dilyn ein trafodaethau gyda amryw o gwmniau preifat ac yn dilyn derbyn ymateb banc y Co-operative yn dweud nad oes bwriad ganndynt ddarparu unrhyw wasanaethau Cymraeg pellach mae'n amlwg os na cheir Deddf i orfodi'r sector breifat i roi statws cyfartal i'r Gymraeg - gwasanaeth tocenistaidd Cymraeg yn unig y gallwn ddisgwyl. Galwn felly ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn cynnwys y sector breifat."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig