tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ethol Cadeirydd Newydd

Menna MachrethYn eu Cyfarfod Cyffredinol gynhelir yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth bore dydd Sadwrn Hydref 25 bydd Hywel Griffiths sydd wedi bod yn gadeirydd y Gymdeithas ers Mis Mawrth 2007 yn rhoi'r gorau i'w swydd, ac fe etholir Menna Machreth, sy'n sefyll yn ddiwrthwynebiad i gymryd ei le.

Fel Hywel daw Menna hithau o Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei magu yn Llanddarog, er bod ei mam yn dod o Landdewi Brefi yn wreiddiol â'i thad o Rydymain ger y Dolgellau ac yna Lledrod. Cysylltiad ei thad â Sir Feirionnydd sydd yn cyfrif am y Machreth yn ei henw.

Aeth i'r Ysgol Gynradd yn Llanddarog ac yna i Ysgol Uwchradd ym Maes yr Yrfa. Yno fe astudiodd Saesneg, Cymraeg a Drama ar gyfer Lefel A. Dechreuodd ymddiddori yng ngwaith y Gymdeithas pan oedd hi yn y chweched dosbarth a thra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Yno bu'n weithgar gyda chell Pantycelyn cyn dod yn aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Chwaraeodd ran flaenllaw ym mywyd gwleidyddol y Coleg a bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg ym Mhrifysgolion Cymru. Graddiodd yn 2006 cyn treulio blwyddyn fel Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, profiad a fwynhaodd yn fawr iawn. Hi oedd yn gyfrifol am arwain ymgyrch y myfyrwyr dros Goleg Ffederal Cymraeg a chydlynu holl weithgarwch yr Undeb. Yng ngaeaf 2007 fe gyhoeddodd y Gymdeithas eu model hwy o Goleg Ffederal Cymraeg mewn dogfen a baratowyd gan Menna Machreth a Rhys Llwyd.

Llynedd bu Menna yn astudio ar gyfer gradd MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, gan astudio'n bennaf hunaniaeth genedlaethol mewn llenyddiaeth a theori ôl drefedigaethol. Mae nawr yn astudio ar gyfer doethuriaeth.

Mae'n mwynhau ysgrifennu creadigol o bob math. Hi oedd golygydd diwethaf Tu Chwith ac mae'n uwch olygydd y cylchgrawn.

Mae Menna yn Gristion ac yn aelod yng Nghapel Newydd Llanddarog. Yn ddiweddar cafodd gyfle i deithio i Kyiv yn yr Iwcrain lle bu'n ymweld ag eglwysi Protestannaidd sy'n profi diwygiad yno ar hyn o bryd. Mae'r eglwysi hyn yn chwarae rhan llawn yn y gymdeithas ac yn ymwneud llawer â gwaith cymdeithasol mawr gan nad oes gwladwriaeth les yn yr Iwcrain.

Mae Menna hefyd yn chwarae'r delyn, er nad yw eto wedi addo chwarae'r offeryn yn y Cyfarfod Cyffredinol. Ei gobaith mawr tra'n gadeirydd y Gymdeithas yw ein gweld yn cael y maen i'r wal ar fater Deddf Iaith a gweld ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i Goleg Ffederal Cymraeg yn cael ei wireddu.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Ceredigion | Cyf Cyff (eleni) | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig