tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Dirprwyiaeth o aelodau yn ymweld â Gwlad y Basg

Gwlad y BasgAr ôl i Gyfarfod Cyffredinol a Rali Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddod i ben yn Aberystwyth brynhawn dydd Sadwrn Hydref 25 bydd pymtheg o aelodau'r Gymdeithas yn paratoi i adael ymhen deuddydd i ymweld â Gwlad y Basg. Dyma'r tro cyntaf ers pymtheg mlynedd i ddirprwyaeth o aelodau'r Gymdeithas ymweld â'r wlad. Hon hefyd yw'r ddirprwyaeth fwyaf niferus erioed i fynd allan a'r daith yn enw'r Gymdeithas.

Yn ystod y daith fydd yn para o Hydref 25 i Ragfyr1) bydd dirprwyaeth y Gymdeithas yn ymweld ag amrywiaeth o fudiadau iaith, cyhoeddwyr papur dyddiol Basgaidd, cymdeithas awduron, cwmnïau sy'n hybu Basgeg yn y gweithle, ysgolion sy'n dysgu drwy'r Basgeg a chwmniau cydweithredol. Byddwn hefyd yn cael profiad o'r sefyllfa ieithyddol mewn gwahanol rannau o'r wlad ac yn cael gweld sut yr aeth un Cyngor Sir i'r afael yn llwyddiannus â phroblem y mewn lifiad o Sbaen

Dywedodd Sioned Haf, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.

"Mae'r daith hon fydd yn para wythnos yn un tra arwyddocaol gan fod Deddf Iaith wedi ei phasio yn ddiweddar yng Ngwlad y Basg ac iddi nifer o'r grymoedd y dymunem ni ei weld mewn Mesur Iaith yng Nghymru. Yn benodol mae eu deddfwriaeth ddiweddaraf hwy yn mynd i'r afael a statws yr iaith yn y sector breifat. Hefyd, mae'r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru a Gwlad Basg yn rhyfeddol o debyg ond eu bod hwy dipyn ar y blaen i ni o ran hawliau iaith. Felly yr ydym yn gobeithio dysgu llawer ar y daith hon. Bydd hynny yn ein harfogi am gyfarfod gyda'r CBI sydd i ddigwydd ym Mis Tachwedd ar ôl i ni ddychwelyd."

Mwy yn yr un categori(au): Newyddion | Rhyngwladol
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig